S4C Cinio Caru
HAFAN   CYSTADLEUWYR   CYSTADLEUAETH   Y MAITRE D'   IAITH Y CORFF   CYNGOR CALL   DETS I'W HANGHOFIO   | english

Dêts i'w hanghofio!

Bydd cyfres ddetio newydd S4C Cinio Caru yn dangos 'gwledd' o ddêts cyntaf cofiadwy - rhai ohonynt yn llawn sbeis a serch ac eraill yn embaras lwyr! Fe ofynnom ni i rai o sêr S4C am eu dêts cyntaf nhw a chlywed am ambell dêt fyddai'n well i bawb anghofio!

Mark Flanagan

"Pan oeddwn i tua 18 oed mi wnes i ofyn wrth y ferch yma fynd am beint efo fi, a phan ddywedodd hi y byddai mi oeddwn i wrth fy modd. Ond tua 10 munud ar ôl cyrraedd y pyb, mi wnaeth ei ffrindiau hi droi fyny i ymuno â ni am y noson - felly mi ges i ddêt hefo hi a'i ffrindiau i gyd - grêt!! Yn rhyfedd ddigon, wnes i ddim gofyn iddi fynd am beint byth wedyn!".

*

Angharad Llwyd, actores a chyflwynydd

"Mi oeddwn i newydd ddechrau mynd efo'r boi 'ma, ac mi oedd hi yn ben-blwydd arna i - felly fel treat mi aeth Dafydd a fi allan am bryd o fwyd rhamantus i'r Bull yn Biwmares. A gan ei fod yn un o'r dêts cyntaf, a minnau yn eithaf nerfus, mi wnes i ddechrau siarad pymtheg y dwsin. Siarad cymaint, efo ngheg yn llawn, nes i mi ddechrau tagu yn afreolus nes bod pawb yn y bwyty wedi troi rownd i edrych - mi wnes i dreulio y chwarter awr nesa yn y toiled yn ceisio stopio tagu, a cwlio fy hun i lawr rhyw ychydig! Mae'n rhaid na wnes i argraff rhy ddrwg gan fy mod i ddwy flynedd yn ddiweddarach dal efo Dafydd!!".

*

Julian Lewis Jones, actor

Tua pymtheg mlynedd yn ôl mi oeddwn i yn byw yng Nghaliffornia, ac mi oedd gen i gefndryd yn byw wrth ymyl. Ar ôl ychydig fisoedd yno mi ddywedodd un o'm cefndryd ei fod wedi cyfarfod merch o Gymru, ac y dylem gyfarfod am ddiod rhyw noson. Roedd gen i ychydig o hiraeth am Gymru fach ar y pryd, ac roedd hyn i weld yn syniad ffantastig - felly mi es i ar blind date i gyfarfod y ferch hyn i dafarn Brydeinig yn Los Angeles. Lisa oedd ei henw, a'r unig gyswllt oedd ganddi â Chymru mewn gwirionedd oedd ei bod yn mynd i Brifysgol Caerdydd - roedd hi yn Saesnes ronc, ac yn addoli'r Frenhines. Doedd gennym ni ddim byd yn gyffredin, ac mi oedd hi y person diwethaf y byddwn i eisiau bod ar ddêt gyda hi - a dyna, diolch byth, oedd y tro cyntaf a'r tro olaf i mi weld Lisa!"

*

Eleri Siôn, cyflwynydd chwaraeon a'r gyfres WawFfactor

"Pan oeddwn i yn y coleg, mi oeddwn i rili'n lico'r boi hyn, a 'nathon ni drefnu i fynd am ddêt. Wnes i yfed dipyn cyn mynd i gwrdd a fe, a gan ei fod e 'ychydig yn hwyr, nes i yfed ychydig mwy - felly pan wnaeth e gyrraedd mi oeddwn i yn eithaf meddw. Ein stop cyntaf oedd y dafarn hyn gyda grisiau yn mynd fyny iddi, ac fe gwmpes i ar fy ngwyneb a thorri fy mhen-glin! Felly fe wnaethom dreulio gweddill y dêt yn yr ysbyty...Yn rhyfeddol mi fuo ni mas da'n gilydd am tua pedair wythnos ar ôl hynny cyn i mi dorri pont fy ysgwydd yn chwarae rygbi - ac roedd hynny ddigon iddo benderfynu mod i yn ormod o Calamity Jane i fynd mas da'i! "

*

Iolo Williams, cyflwynydd a naturiaethwr

"Dwi'n cofio mynd allan gyda merch eithaf posh o Essex (ydi, mae'r fath beth yn bodoli!) a chael gwahoddiad i ginio yn nhw ei mam a'i thad. Roedd rhaid gwisgo crys crand ac eistedd i lawr gyda lliain gwyn llachar a phob math o blatiau gwerthfawr ar y bwrdd. Roedd y tad yn dipyn o rwdlyn a dweud y gwir ond roeddwn i'n ceisio rhoi'r argraff fy mod yn mwynhau ei jocs yn fawr. Wedi'r platiau gael eu clirio, roedd pawb yn gwrando ar un arall o'i jocs ac ar ôl y 'punchline', chwarddais gyda llond ceg o 'port'. O achos hyn, saethodd y darn mwyaf o snot a welais erioed ar draws y bwrdd a glanio ar y lliain gwyn o flaen y fam ... Wnes i ddim gwneud argraff da arnyn nhw!"

*

Daloni Metcalf, Cyflwynydd Ffermio

"Pan oeddwn i yn dechrau canlyn efo Wil, mi oeddem wedi trefnu ei gyfarfod yn y Chinese ym Mangor am 9pm, yn syth ar ôl i mi orffen gwneud rhaglen newyddion yn y BBC ac yntau yn teithio o Benllyn. Ro'n i'n eistedd yno am tua awr a hanner yn disgwyl amdano fo. Roedd pobl yn dechrau gweld bechod drosta' i ac yn meddwl bod 'na rywun wedi gwneud tro sâl a fi a finne'n meddwl fy mod i'n stood up!! Hollol hollol embarrassing, a finne yn gwneud pob math o esgusion drosto fo! Yn y diwedd, mi wnes i ddechrau poeni ei fod wedi cael damwain, felly mi wnes i drio ffonio ei gartref, ac erbyn tua 11pm roedd o wedi cyrraedd adra. Mi fuodd o'n eistedd yn y stafell drws nesaf yn aros amdana i, ac yn meddwl nad oeddwn i yn mynd i droi i fyny! Mae'n trefniadau ni wedi bod yn well ers y noson honno, gan ei fod bellach yn wr i mi!"

*