DEWIS DÊT AR S4C!

Gyda ninnau ar drothwy'r haf a'r siwmperi yn ôl yng nghefn y cwpwrdd, mae S4C yn barod am gariad bob nos Wener, gyda chyfres newydd sbon o Cinio Caru! Bydd y gystadleuaeth yn dychwelyd i'r sgrîn fach, y rhan gyntaf o'r hwyl cyn Big Brother am 8:25pm a'r ail ran, gyda'r canlyniad a dêt yr wythnos gynt, yn dilyn am 9:30pm.
Bob wythnos bydd merch neu fachgen yn cael y cyfle i gael blas ar dri chystadleuydd - un dros y cwrs cyntaf, yr ail dros y prif gwrs a'r trydydd dros bwdin – tra'n mwynhau pryd o fwyd rhamantus, naillai yn ffefryn Catherine Zeta Jones, Gwesty Morgans yn Abertawe, neu westy ysblennydd Castell Deudraeth ym Mhortmeirion.
Eleni bydd y cystadleuwyr yng ngofal y Maitre D' newydd Meical Owen (o'r gyfres Procar Pinc) ac mi fydd y gyflwynwraig Ffion Dafis a Dr. Mair Edwards, y seicolegydd unwaith eto wrth law i ddadansoddi pob ystum ac i gynnig geiriau doeth i'r dewisydd. Unwaith bydd y penderfyniad wedi ei wneud mi fydd y cwpl hapus yn gyrru i ffwrdd mewn Cadillac mawr gwyn ar ddêt i'w chofio.
|
CINIO CARU
Bob Nos Wener, 8:25pm & 9:30pm gydag isdeitlau Cymraeg
Cynhyrchiad Chwarel |
|