MEICAL Y MAITRE D'
Yn cyfrannu at yr hwyl yn y gyfres newydd hon fydd Meical Owen, cymeriad chwareus fydd yn gyfarwydd i wylwyr y gyfres Procar Pinc, a ddilynodd chwe pherson hoyw i'r Mardi Gras yn Sydney. Bydd Meical yn ychwanegu ei steil a'i 'je ne sais quoi' unigryw fel y Maitre d' hollbwysig.
Oes gen ti straeon am rai o'r cystadleuwyr?
Mi oedd 'na un boi yn ystod y gyfres, na i ddim ei enwi o, ond mi o'n i'n hollol argyhoeddedig ei fod o'n hoyw. Mi wnes i ddeud wrtho fo cyn iddo fynd mewn at yr hogan, 'Ti'n siwr bo' chdi ddim isho fi?' - mi wnaeth o roi uffar o slap ar y 'mhen ôl i!
Oedd 'na wahaniaeth rhwng y genod oedd yn cystadlu a'r bechgyn?
Dwi'n meddwl mai'r gwahaniaeth mwya' oedd bod y genod yn fwy ffysi. Yn reit aml, fyddai genod ddim yn licio'r boi oedd yn dewis. Dwi'n cofio un wythnos mi gafodd ferch ei dewis ac mi oedd hi'n casáu'r boi ac yn meddwl bod o rêl sglyfa'th afiach. Mi wnaeth hi ofyn i mi fynd ar y gwyliau efo hi yn lle!
A fu unrhyw densiwn rhwng cystadleuwyr?
Mi oedd 'na densiwn ambell dro. Un tro, mi oedd 'na dri boi yn disgwyl i gael eu dewis gan ferch ac ar ôl i'r boi cynta' fynd mewn mi wnaeth un o'r lleill droi ata i a dweud 'dwi'n casáu'r boi 'na sdi'. Yn ôl pob tebyg mi oedd 'na ychydig o hanes rhyngddyn nhw!
Felly oedd 'na unrhyw un oeddet ti'n ffansïo yn ystod y gyfres?
O, oedd!! Oedd 'na un boi hollol gorjys o Abertawe - model oedd e o'r enw Gareth. Nes i ofyn iddo fo os bysa fo'n fodlon modelu ei drôns i mi!
Beth ydy hanes Michelle, y trani tinboeth, erbyn hyn?
Wel, deud y gwir, dim ond un noson erioed mae Michelle wedi bodoli - yn rhaglen olaf Procar Pinc pan 'nes i wisgo fel merch! Ma' pobl yn dal i ddeud wrtha i, 'O'n i'm yn gwybod bo' chdi'n trani Meical, a fydda i'n ateb, 'Tydw i ddim, nac'dw!'
CINIO CARU
Nos Wener, 8.25pm & 9.30pm gydag isdeitlau Saesneg
Cynhyrchiad Chwarel
|