S4C Cinio Caru
HAFAN   CYSTADLEUWYR   CYSTADLEUAETH   Y MAITRE D'   IAITH Y CORFF   CYNGOR CALL   DETS I'W HANGHOFIO   | english
* Rhaglen 1 * Rhaglen 2 * Rhaglen 3 * Rhaglen 4 * Rhaglen 5 * Rhaglen 6 * Rhaglen 7 *

Dydd Gwener, 12 Awst

'Nesaf ar Cinio Caru...'

Y Dewisydd...


Hazel Hughes
Mae Hazel 34 yn wreiddiol o Bontnewydd ond yn gweithio yng Nghaerdydd erbyn hyn. Arferai weithio yn maes awyr Manceinion a Llundain ac hefyd yn Sweden, Bwlgaria, Eidal, a Moroco.

Mae hi'n hoff o feicio, rygbi, cerdded mynyddoedd a theithio. Mae hi'n chwilio am ddyn sydd yn hoff o chwaraeon, sy'n gwybod sut i gael amser da a ddim yn cael ei ddychryn gan deuluoedd mawr! Dyn tebyg i Bono o U2 fyddai'n ddelfrydol!

 

 

Y Dewis...

Nick Williams
Mae gan Nick, 31, ddau o blant a'n gweithio tu ôl i far mewn tafarn yng Nghaergybi. Arferai weithio mewn ysbyty meddwl am 8 mlynedd. Mae'n hoff o bêl-droed, cwrw a golff a chadw'n heini. Ei hoff ffilm yw 'Star Wars' a'i hoff raglen deledu yw 'Teachers'.

Mae'n gymeriad cryf a'n hyderus tu ôl i'r bar gyda'r cwsmeriaid. Ei uchelgais yw i fod yn enwog! Mae'n un am y merched a'n hoff o ganu Carioci yn y bar. Mae ei swydd yn ddelfrydol oherwydd bod ganddo'r cyfle i gymdeithasu a tra'n cael ei dalu amdano!

 

Iolo Williams
Hyfforddwr technoleg gwybodaeth ydi Iolo Williams, 33 o Langefni. Mae'n mwynhau mynd i'r gampfa ac atgyweirio ceir a chyfrifiaduron yn ogystal â mwynhau teithio o amgylch Ewrop.

Mae'n chwilio am ferch sy'n gallu cynnal sgwrs dda, sy'n ddeallus a chlyfar, sy'n hwyl a dim yn rhy denau ond ddim rhy dew chwaith. Rhaid iddi gadw ei hun yn heini a'i bod ddim yn ysmygu chwaith.

 

Richard Jones
Arferai Richard, 33, fyw yn Abergele ond mae wedi ymgartrefu yng Nghaerdydd ers 1998. Mae ganddo swydd fel biochemist i gwmni bychan ym Mryste. Mae'n gymeriad annwyl iawn, nid yw'n hynod hyderus ac felly nid yw wedi cael llawer o lwc gyda'r merched.

Mae'n chwilio am rywun sy'n hoffi cerdded yn yr awyr iach ar ddiwrnod braf yn lle gwylio operâu sebon a rhywun sydd ddim yn rhy 'bossy'! Ei ddêt delfrydol fyddai'r actores Nia Roberts oherwydd ei bod yn brydferth a naturiol heb fod yn ffals fel modelau'r catwalk.

 



hazel hughes

nick williams

iolo williams

richard jones

Cinio Caru
Nos Wener, 8.25pm &
9.30pm gydag isdeitlau Saesneg

Cynhyrchiad Chwarel