S4C Cinio Caru
HAFAN   CYSTADLEUWYR   CYSTADLEUAETH   Y MAITRE D'   IAITH Y CORFF   CYNGOR CALL   DETS I'W HANGHOFIO   | english

10 Ffordd i gadw'r rhamant yn fyw yn eich perthynas

Gyda'r cystadleuwyr yn mwynhau llond bol o fwyd mewn bwyty ffansi a'r ddewisydd a'i del yn ennill penwythnos yn un o ddinasoedd Ewrop, does dim syndod eu bod yn teimlo'n gariadus. Ond beth all y gweddill ohonom ei wneud i gadw'r rhamant yn fyw?

Dyma gyngor Sioned Morys, cynhyrchydd Cinio Caru a sylfaenydd Pishyn.Com, yr asiantaeth caru Cymraeg cyntaf.

  • Ewch ar bicnic Paciwch eich hoff fwyd, blanced a radio ac anelwch am eich hoff le. Does dim byd fel ychydig o fwyta al-fresco!
  • Bwytewch cod a sglods wrth y môr Mae'n od sut y mae pleserau plentyndod yn dal i fedru'ch cynhyrfu.
  • Cael a chael Gadewch i'ch partner gael noson allan gyda'r hogia' nos Sadwrn, ond dim ond os ydyn nhw'n fodlon mynd â chi allan am bryd nos Wener!
  • Pethau bach Prynwch anrheg fach i'ch gilydd bob yn hyn a hyn.
  • Siaradwch â'ch gilydd Diffoddwch y teledu a mwynhewch botel o win a sgwrs.
  • Mwynhewch y celfyddydau Ewch i weld drama neu ffilm.
  • Gwnewch rywbeth cyffrous Trefnwch sesiwn rafftio ar Afon Tryweryn neu cymerwch wersi hwylio! Mae rhannu profiadau newydd yn rhoi pethau gwahanol ichi siarad amdanynt.
  • Canmolwch ei gilydd Weithiau mae'n bosib i ni gymryd yn ganiataol bod ein partner yn gwybod eu bod nhw'n edrych yn ddel neu'n coginio'n dda. Cofiwch fod eisiau dweud y pethau yma bob yn hyn a hyn!
  • Ewch ymaith! Mae bywyd bob dydd yn medru rhoi straen ar berthynas. Trefnwch amser i ffwrdd â hyd yn oed os ydych chi ond yn mynd am un noson.
  • Cofiwch chwerthin Gwyliwch ffilm ddoniol, ewch i weld digrifwr yn perfformio neu tynnwch albwm o hen luniau'r teulu allan â cwpwrdd!