Neidio at y cynnwys

S4C

Clic

Cwestiwn am Clic?

Cewch hyd i'r atebion yma.

Os oes cwestiwn arall gyda chi, croeso i chi gysylltu â ni

  • Ydy S4/Clic yn wasanaeth rhad ac am ddim i'w ddefnyddio?

    Ydy.
  • Oes modd gwylio Clic yn unrhyw le yn y byd?

    Fel arfer, dim ond yn y Deyrnas Gyfunol y gellir gwylio Clic onibai fod hawliau byd-eang wedi eu clirio. Mae tudalen pob rhaglen yn Clic yn nodi ymhle mae ar gael i'w gwylio. Mae'n ofynnol i ni sicrhau'r caniatâd angenrheidiol cyn cynnig unrhyw gynnwys ar y we. O bryd i'w gilydd, mae'n bosibl gwylio rhai rhaglenni ar-lein y tu allan i'r DG. Mae'r rhain fel arfer yn ddigwyddiadau neu'n rhaglenni lle nad oes materion hawliau ynghlwm â nhw.

    Yn aml mae'n amhosibl sicrhau caniatâd darlledu oherwydd natur neu berchnogaeth yr hawliau. Gall y gost o glirio'r hawliau ar sail byd eang hefyd fod yn ddrud iawn. Mae hyn yn arbennig o wir ym maes cerddoriaeth, sydd yn amlwg yn rhan annatod o'n rhaglenni. Mae rhai asiantaethau sy'n cynrychioli cyfansoddwyr wedi creu trefn o glirio ar ran ei gilydd ('reciprocal arrangements') ond mae hyn yn drefn lafurus a chymhleth. Mae'n anodd iawn sicrhau'r cliriadau angenrheidiol i gynnig y gerddoriaeth tu allan i'r DG.

    Yn yr un modd, mae'r cytundebau perfformio gyda'r undebau talent (Equity ar ran yr artistiaid, Undeb y Cerddorion a'r Gild Awduron dros sgriptwyr) yn cynnig yr hawl i ni ddefnyddio'u cyfraniadau yn y DG yn unig. Mae trefniadau yn bodoli i gynnig y deunydd y tu allan (ar deledu a chyfryngau eraill) i'r DG ond mae'r strwythur yma yn rhag dybio bod y cynnwys yn cael ei werthu, a bod tal (i'r cyfranwyr i gyd) yn daladwy i gydnabod y defnydd estynedig.

    Gallwch chi gael rhestr o raglenni sydd ar gael yn fyd-eang trwy gysylltu â Gwifren Gwylwyr S4C ar +44 (0) 870 600 4141, neu mae croeso i chi ddefnyddio'r ffurflen gyswllt ar waelod y dudalen hon.

  • Oes angen meddalwedd newydd arna i i wylio S4/Clic?

    Mae S4/Clic yn defnyddio chwaraewr Flash. Fel arfer bydd y meddalwedd ar gael ar gyfrifiaduron diweddar. Os ydych chi'n derbyn neges sy'n gofyn a hoffech chi lawrlwytho Flash, peidiwch phoeni. Fydd Flash ddim yn gwneud niwed i'ch cyfrifiadur, does dim cost i chi wrth lawrlwytho, a dim ond unwaith bydd angen ei lwytho. Dilynwch y camau lawrlwytho ar eich sgrin, a mwynhau'r gwylio.
  • Pa mor fuan wedi i'r rhaglen fod ar y teledu y bydd yn cyrraedd S4/Clic?

    Fel arfer cyn gynted ag y bydd wedi cael ei darlledu. Bydd rhaglenni byw ar gael i'w gwylio mor fuan ag sy'n bosibl.
  • Ydy hi'n bosibl i wylio holl raglenni S4C ar S4/Clic?

    Mae hi'n bosib pryd bynnag fod yr hawliau darlledu ar-lein gan S4C.
  • Ble alla i ddod o hyd i raglenni a ddangoswyd yn gynt na 7 diwrnod yn ôl?

    Os ewch chi i dudalen y rhaglen ar Clic, fe welwch chi restr o bob rhaglen yn y gyfres sydd yn dal i fod ar gael i'w gwylio.
  • Oes isdeitlau ar gael bob amser?

    Os oes ideitlau ar y rhaglen deledu, fel arfer byddan nhw ar gael ar-lein. Mae'r un fath yn wir am raglenni wedi eu harwyddo a gyda sain ddisgrifio. Am resymau technegol dydy hi ddim yn bosibl i isdeitlo gwylio byw ar hyn o bryd.
  • Ble allai weld am ba hyd mae rhaglen wedi bod ar gael/yn dod i ben?

    Bydd gan bob pennod ddyddiad darlledu cyntaf a dyddiad dod i ben.
  • Alla i lawrlwytho rhaglenni o S4/Clic?

    Dydy hyn ddim yn bosibl ar hyn o bryd, ond byddwn yn rhoi gwybod i wylwyr gwasanaeth Clic os bydd y sefyllfa'n newid.
  • Oes dolen i amserlen deledu?

    Oes. Cliciwch ar y blwch Amserlenni ar ben tudalen S4C.
  • Oes angen trwydded ar wahân arna i i wylio rhaglenni ar-lein?

    Ddim ar hyn o bryd, er y gallai hyn newid yn y dyfodol (gweler Telerau ac Amodau S4C am wybodaeth bellach).

Ydy'r ateb oedd ei angen arnoch chi yma?

Os na, mae croeso i chi anfon unrhyw gwestiwn sydd gyda chi am wasanaeth S4/Clic aton ni a byddwn ni 'n hapus i helpu. Tarwch nodyn yn y bocsys isod ac fe ddown yn ôl atoch chi gydag ateb mor fuan ag y gallwn ni.

Eich manylion personol:
Eich cwestiwn:

© 2010 S4C
O Gymru / Made in Wales