Neidio at y cynnwys

S4C

Clic

Sut i ddefnyddio S4/Clic

Croeso i wasanaeth newydd gwylio rhaglenni S4C ar-lein. Mae'r rhan fwyaf o raglenni S4C ar gael i'w gwylio eto am 35 diwrnod ar-lein yn rhad ac am ddim, er mwyn i chi wylio pan fydd yn gyfleus i chi. Dyma sut i ddefnyddio'r safle os ydy hi'n newydd i chi.

  • Llywio Clic

    • Chwarae/Saib

      Chwarae/Saib

    • Yn ystod y rhaglen

      Yn ystod y rhaglen - symud yn ôl ac ymlaen

    • Faint o amser sydd wedi mynd/yn weddill

      Faint o amser sydd wedi mynd/ hyd y rhaglen gyfan

    • Botwm sgrîn lawn

      Botwm sgrîn lawn

    • Isdeitlau

      Isdeitlau

    • Sain

      Sain

  • Cuddio/dangos

    Dangos Gwneud Clic yn llai mewn blwch a'i symud i gornel eich sgrîn

  • Arwyddion hafan Clic

    Arrows Defnyddiwch yr arwyddion bach chwith a dde yn yr oriel ar dudalen hafan Clic i weld yr uchafbwyntiau rhaglenni.

  • Mathau Rhaglenni

    Cliciwch ar y botwm 'Mathau Rhaglenni' yn y panel llywio du ar ochr chwith tudalen hafan Clic i weld pa fathau o raglenni mae S4C yn eu cynnig i chi.

  • A-Y Rhaglenni

    Cliciwch ar y rhestr 'A-Y Rhaglenni' yn y panel llywio du ar ochr chwith tudalen hafan Clic i weld rhestr gyflawn o'r rhaglenni mae S4C yn eu cynnig i chi. Daliwch eich llygoden dros deitl y rhaglen am ddisgrifiad byr o'r rhaglen neu'r gyfres.

  • Flash

    Meddalwedd – mae Clic yn defnyddio chwaraewr Flash. Fel arfer bydd y meddalwedd ar gael ar gyfrifiaduron diweddar. Os ydych chi'n derbyn neges sy'n gofyn a hoffech chi lawrlwytho Flash, peidiwch â phoeni. Fydd Flash ddim yn gwneud niwed i'ch cyfrifiadur, does dim cost i chi wrth lawrlwytho, a dim ond unwaith bydd angen ei lwytho. Dilynwch y camau lawrlwytho ar eich sgrin, a mwynhau'r gwylio.

  • Isdeitlau

    Isdeitlau Isdeitlau – pan welwch chi symbol y dylluan wedi ei goleuo, mae isdeitlau Cymraeg ar gael. Cliciwch ar y botwm Cymorth isdeitlo o dan y sgrin wylio ar dudalen y rhaglen ar wefan Clic, a byddwch yn gallu gweld pa isdeitlau sydd ar gael. Dilynwch y cyfarwyddiadau i'w gwylio.

  • Dull amgen o wylio

    Dull amgen o wylio – bydd y rhan fwyaf o'r rhaglenni ar Clic hefyd ar gael ym meddalwedd Windows Media Player i wylwyr sydd heb gyfrifiadur sy'n cynnal Flash. Cliciwch ar y ddolen o dan y wybodaeth isdeitlo ar dudalen y rhaglen ar wefan Clic am fanylion defnyddio isdeitlau yn Windows Media Player.

  • Rhaglenni wedi eu harwyddo

    Rhaglenni wedi eu harwyddo – mae adran benodol ar gyfer y rhaglenni cyfredol, sydd ar gael gydag arwyddo ar y sgrin. Cliciwch ar y ddolen berthnasol yn y panel llywio du ar ochr chwith tudalen hafan Clic i weld rhestr gyflawn.

© 2010 S4C
O Gymru / Made in Wales