Iolo ac Indiaid America - Y Blackfoot
13 Gorffennaf 14

Llwytho'r fideo...

Gwybodaeth am raglenni

Gwybodaeth am raglenni

Mae naturiaethwr Iolo Williams ar daith ar draws Gogledd America a Canada i fyw gyda rhai o'r cenhedloedd brodorol. Heddiw mae Iolo yn byw ymysg un o genhedloedd mwyaf eiconig Gogledd Orllewin America, y Blackfoot. Mae un o'r Pow Wows mwyaf bywiog a lliwgar wedi dechrau yn y dref ac mae Iolo ar daith i ddarganfod sut mae'r bobl anhygoel yma wedi datblygu mewn i rai o farchogion gorau'r byd. Ar hyd y daith bydd yn treulio diwrnod bythgofiadwy ar ransh draddodiadol ac yn dilyn un o farchogion gorau'r llwyth wrth iddo gymryd rhan mewn un o rasus mwyaf peryglus y byd. Bydd e hefyd yn gweld ôl effaith hanes y Blackfoot gyda'r dyn gwyn, a hyn i gyd i gefndir godidog mynyddoedd y Rockies.

Y diweddaraf