Shân Cothi - 05 Medi 14

Llwytho'r fideo...

Gwybodaeth am raglenni

Gwybodaeth am raglenni

Ymunwch â Shân Cothi am hanner awr o gerddoriaeth i godi'r galon yng nghwmni gwesteion arbennig. Bydd Shân yn agor y rhaglen gydag un o alawon mwyaf angerddol y cyfansoddwr Borodin, cân allan o'r sioe gerdd 'Kismet', 'A Hwn Sy'n Annwyl i Mi'. Yna cawn gwmni'r Mezzo Soprano o Gilgerran, Leah-Marian Jones. Bydd Leah-Marian yn perfformio dwy gân unawd i ni heno - 'Voi Lo Sapete' o'r opera 'Cavalleria Rusticana' gan Mascagni, ac yna cân fach Sbaeneg 'El Vito' gan y cyfansoddwr Obradors. Bydd Leah-Marian yn ymuno a Shân i ganu'r 'Weddi Hwyrol' o'r opera 'Hansel a Gretel' gan Humperdinck, ac i gloi cawn gwmni'r bachgen ifanc o Landybie, Gwion Wyn Jones a fydd yn perfformio dwy gân allan o'r sioe gerdd boblogaidd 'Oliver'.

Rhagor o benodau

Y diweddaraf