Cyfres gomedi wallgof yn dilyn hynt a helynt cyflwynwyr Stwnsh. Mae'r amser wedi dod i griw LOL aeddfedu, tyfu i fyny a magu sgiliau newydd. Ydy, mae'r amser wedi dod iddyn nhw drefnu profiad gwaith! Sut y bydd Alun, Owain, Lois, Anni a Tudur yn ymdopi â'u cyfrifoldebau newydd? Ble byddant yn gweithio a phwy fydd yn cael y fraint o rannu eu profiad gwaith? Yn y bennod gyntaf, Alun Williams sy'n gorfod trefnu ei brofiad gwaith. Pwy fydd ei ddewis o'r "Llyfr Bach Du"? Pam mae Shân Cothi yn mynd ar ôl 'Epa Aber'? A beth ar wyneb y ddaear ydy 'Anghenfil-Od'?!
Yn dod i ben mewn 10 diwrnod
Cafodd y bennod hon ei darlledu ar 27 Ebrill 13
Ar gael yn y D.U. yn unig
Rydyn ni'n croesawu sylwadau am ein rhaglenni, gwasanaeth Clic neu unrhyw agwedd o wasanaeth S4C yr hoffech wneud sylwadau amdani.
