Separado!
31 Awst 14

Llwytho'r fideo...

Gwybodaeth am raglenni

Gwybodaeth am raglenni

Mae'r seren bop Gymreig Gruff Rhys (Super Furry Animals) yn ein tywys ar wibdaith dros sawl cyfandir i ddarganfod ewythr colledig ym Mhatagonia- y gitarydd mewn poncho, René Griffiths. Ym 1880, yn dilyn ras geffylau ddadleuol wnaeth arwain at farwolaeth amheus, rhwygwyd teulu Gruff Rhys pan ymunodd Dafydd Jones a'i deulu ifanc â'r fintai i'r Wladfa Gymreig ym Mhatagonia, De America. Ni fu cysylltiad rhwng y ddwy gangen deuluol am bron i ganrif, tan ddaeth René Griffiths i Gymru ym 1974 i wefreiddio cynulleidfaoedd gyda'i ganeuon serch Hisbaenaidd. Dilyna'r cyfarwyddwr Dylan Goch daith Gruff Rhys trwy theatrau, clybiau nos a thai te Cymru, Brasil ac Andes yr Ariannin, wrth iddo ddarganfod hanes ei deulu, Cymry'r Wladfa, a'u hetifeddiaeth gerddorol. Bydd ffilm ddiweddaraf Gruff Rhys, I Grombil Cyfandir Pell: American Interior yn cael ei dangos ar S4C ym mis Medi.
  • Yn dod i ben mewn 14 diwrnod
  • Dangosiad cyntaf 31 Awst 14
  • Dangosiad diwethaf 11 Medi 14
  • Munud: 84
  • Ar gael yn y D.U. yn unig
  • Isdeitlau Saesneg ar gael
  • Gwefan Separado!

Y diweddaraf