Dyddiaduron y Rhyfel Mawr - Cartref a Charchar
13 Gorffennaf 14

Llwytho'r fideo...

Gwybodaeth am raglenni

Gwybodaeth am raglenni

Drama-ddogfen yn seiliedig ar brofiadau pobl o bob rhan o Ewrop yn ystod y Rhyfel Mawr. Yn y rhaglen heno - Cartref a Charchar - cawn weld effeithiau'r rhyfel ar y rhai sy'n bell o'r ymladd. Mae Ethel Cooper yn athrawes biano o Awstralia sydd wedi byw yn Leipzig yn Yr Almaen ers blynyddoedd ond gyda'r rhyfel, fe ddaw hi'n elyn dros nos. Mae Karl Kasser, o Awstria yn garcharor ac ar drên i Siberia, tra yn Lloegr mae Gabrielle West yn meddwl bod amodau gwaith y ffatri arfau'n ffiaidd. Mae Yves Congar yn ofni y bydd ei dad yn cael ei gymryd yn wystl o'i gartref yn Sedan, ac mae Elfriede Kuhr, yn gofalu am fabanod mewn cartref yn Schneidermule.

Rhagor o benodau

Y diweddaraf