Y Babell Lên - 02 Medi 14

Llwytho'r fideo...

Gwybodaeth am raglenni

Gwybodaeth am raglenni

Roedd Dewi Emrys yn un o gymeriadau mawr llenyddiaeth Gymraeg yr 20fed Ganrif. "Crwth a thelyn pob cwmni", yn ôl un disgrifiad, ond dyn a gafodd fywyd tymhestlog. Emyr Llywelyn sy'n trafod troeon amrywiol y bywyd hwnnw mewn sgwrs gofiadwy a dirdynnol ar adegau. Cymeriad unigryw arall oedd Hywel Teifi Edwards, un o ffefrynnau Y Babell Lên. Mewn sesiwn hynod o hwyliog bu Beti George yn holi Huw Edwards am ei dad; yn trafod Hywel Teifi y cyfathrebwr, yr ysgolhaig a'r tad, ac yn egluro sut brofiad oedd byw gyda "lojer o'r ganrif ddiwethaf".

Rhagor o benodau

Y diweddaraf