S4C

Y llwybr at Clirlun

Mae hwn yn gyfnod cyffrous i S4C wrth i'w sianel Manylder Uwch ddechrau darlledu. High Definition neu HD, ydi Manylder Uwch, gyda'r llaw.

Cafodd y sianel ei henwi ar ôl i S4C ofyn i'w gwylwyr eu helpu nhw i ddewis enw ar gyfer y gwasanaeth. Yr enw a gafodd ei ddewis ydi Clirlun.

Fe es i ar drywydd bathu geiriau yn y byd darlledu a thechnolegol ar gyfer Wedi 7, a hynny yn sgil apêl gan S4C i bobl Cymru fathu term Cymraeg ar gyfer High Definition.

Mae dewis enw i wasanaeth mor bwysig yn gallu bod yn anodd iawn. Fe es i ati i ymchwilio ymhellach i sut cafodd rai geiriau Cymraeg eraill eu bathu yn y byd technolegol.

Teledu

Ar 25 Mai 1953 bathwyd y term 'teledu', a hynny yn rhyfedd ddigon gan dri pherson yn annibynnol i'w gilydd.

Pan fathwyd y gair gan Cassie Davies, Dan Richards ac Urien Wiliam, fe welon nhw'r cyfle i ddefnyddio 'teledu' fel enw am y sgrîn fach yn ogystal â bod yn ferfenw am ddarlledu ar y bocs.

Mae'r gair 'darlledu' bellach yn cael ei ddefnyddio ar gyfer datgan ar radio a theledu ac o ran darlledu ar y we byddai'n bosib defnyddio'r gair 'gweledu', ond eto i gyd os yw 'darlledu' yn iawn ar gyfer datgan ar radio a theledu, pam lai ar y we?

Un nodwedd am ieithoedd fel Ffrangeg a Saesneg sy'n golygu eu bod yn tra arglwyddiaethu ar ieithoedd llai yw bod ganddyn nhw eiriau byr a bachog am nifer o bethau a'r rheiny'n cydio ar lafar.

Termau newydd

Mae hyn yn cyd-fynd â'r duedd ddynol o fod yn ddiog wrth siarad, y byrraf ydi'r gair, gorau i gyd! Ac os yw'n derm sy'n dal dychymyg ar lawr gwlad yna gwell fyth.

Ddylen ni ddim bod ofn bathu termau newydd yn Gymraeg, a hithau'n iaith y gynghanedd heb sôn am fod yn iaith y nefoedd. Un enghraifft wych o fathu bachog yw'r term am USB stick (teclyn bychan sy'n cadw ffeiliau cyfrifiadurol).

Y gair gafodd ei fathu gan griw o Gaernarfon oedd 'Co' Bach', term sy'n well fyth o ystyried taw o Gaernarfon y daw'r bobl wnaeth fathu'r gair!

Clirlun

Fel y gallwch weld, clogyrnaidd ar y naw yw'r termau presennol am High Definition.

Mae 'Manylder Uwch' a 'Diffiniad Uchel' yn ymaflyd â'r tafod wrth inni geisio eu dweud ac yn esiamplau o beth sydd ddim yn fachog yn ieithyddol.

Yn sgil yr apêl, daeth degau o gynigion mewn i'r swyddfa, o 'S4C Hudol' i 'S4C Waw', gyda 'S4C Croyw Loyw' ymhlith y mwyaf cofiadwy i fi.

O ystyried pob dim, Clirlun oedd y dewis gorau, bachog a chlir - yn union fel 'teledu'.

Aneirin

Mae Aneirin Karadog yn wyneb cyfarwydd ar y sgrin fel gohebydd ar Wedi 7.

Yma mae'n esbonio mwy am wasanaeth Manylder Uwch S4C, Clirlun, a sut ddaeth yr enw i fodolaeth.