Cwestiwn ac Ateb am Fanylder Uwch
Rwyf i newydd brynu offer Freeview HD, sut mae sicrhau sylwebaeth Cymraeg?
Mae gwasanaeth S4C Clirlun yn cynnig sylwebaeth yn Gymraeg neu Saesneg ar gyfer rhai chwaraeon. Gydag offer Freeview HD mae'n rhaid dewis iaith, felly cofiwch ddewis y Gymraeg yn opsiwn iaith yn ystod y broses o osod (setup) eich bocs neu deledu newydd. Os ydych yn dymuno newid y dewis iaith gallwch wneud hyn drwy ddefnyddio'r teclyn rheoli. Dilynwch y cyfarwyddiadau yn eich llawlyfr gwneuthurwyr ac ar y sgrin.
Os am gyngor neu gymorth pellach cysylltwch â Gwifren Gwylwyr S4C ar 0870 6004141 neu e-bostio: gwifren@s4c.co.uk.
Sut allai gael Freeview HD?
Fe allwch dderbyn Freeview naill ai drwy brynu:
- offer Freeview HD (yn ogystal â chael teledu sy'n HD Ready)
- recordydd Freeview+ HD (yn ogystal â chael teledu sy'n HD Ready)
- neu deledu newydd Freeview HD
Beth ydy Manylder Uwch a sut fydd e'n effeithio ar wylwyr S4C?
Mae teledu Manylder Uwch yn cynnig llun llawer mwy clir na'r gwasanaeth presennol. Wrth wylio'r sianel newydd, fe allwch chi fwynhau holl raglenni S4C gyda hyd at bedair gwaith mwy o fanylder.
Pryd fydd y sianel newydd ar gael i ni?
Fe fydd y sianel newydd ar gael mewn rhannau o Gymru o ddiwedd mis Ebrill. Bydd gweddill Cymru'n gallu gwylio'r sianel erbyn mis Gorffennaf.
Sut mae modd i ni weld y sianel newydd?
Fe allwch chi dderbyn y sianel yn rhad ac am ddim os oes gennych chi offer Freeview HD. Fyddwch chi ddim yn gallu gweld y sianel ar Sky, Freesat na Virgin.
Oes angen newid yr erial?
Nac oes. Os ydych chi'n hapus â signal o'ch erial presennol, fyddwch chi ddim yn gorfod newid yr erial.
Oes modd gwylio'r sianel heb offer Freeview HD?
Nac oes,ond wrth brynu'r offer fe fyddwch yn gallu gwylio'r sianel newydd yn ogystal â hyd at 50 o sianeli a gwasanaethau digidol eraill.
Faint fydd hyn yn ei gostio?
Mae offer Freeview HD yn costio tua £150 ar hyn o bryd ond mae disgwyl i'r prisiau ostwng dros gyfnod. Ar ôl i chi brynu'r offer, fydd dim costau ychwanegol.
Beth ydy Freeview+ HD?
Mae Freeview+ HD yn cynnwys holl nodweddion Freeview HD ac yn eich galluogi chi i recordio rhaglenni a chyfresi.
A fydd y sianel newydd ar gael y tu allan i Gymru?
Na. Fydd Channel 4 HD ddim ar gael ar Freeview HD yng Nghymru chwaith.
Pa wasanaethau mynediad fydd ar gael?
Fe fydd y rhan fwyaf o'r offer digidol sydd ar gael yn cynnwys nodweddion arbennig, gan gynnwys isdeitlau, sain ddisgrifio ac arwyddo ar gyfer pobl sydd ag amhariad clywed a gweld.

