Neidio at y cynnwys

S4C

Clwb Rygbi Shane

Calon cymuned – Shane yn mynd nôl i'w wreiddiau

Mae Dyffryn Aman yn agos iawn at galon yr asgellwr rhyngwladol Shane Williams. Dyma fro ei mebyd lle dysgodd ei sgiliau rygbi a chwaraeodd ei gêm gystadleuol gyntaf. Mae'n parhau i fyw yno gyda'i deulu ac yn awr, mae'n hyfforddi'r tîm ieuenctid lleol gyda chamerâu S4C yn ei ddilyn bob cam o'r ffordd.

Yn Clwb Rygbi Shane, bydd Shane yn sefydlu ac yn hyfforddi tîm ieuenctid Clwb Rygbi'r Aman gyda chymorth ambell ffrind ym myd y gamp.

Cawn ddilyn datblygiad y garfan yn ystod tymor llawn. Ond sut siâp fydd ar y tîm ar gychwyn y tymor newydd ac oes modd ail greu llwyddiannau'r gorffennol?

Ar hyd y daith, cawn ddod i adnabod y cymeriadau lliwgar sy'n rhoi help llaw i Shane – y rhai sy'n gyfrifol am redeg y clwb o ddydd-i-ddydd – a'r trafferthion y maent yn wynebu. Bydd cyfle i ddilyn John Vince (rheolwr y tîm), Carl (hyfforddwr ifanc y tîm), Darril (Cadeirydd Pwyllgor y Clwb), Elinor (Meistres y Clwb) a'r bois ifanc Dingram, Twomey, Ceri a Breckon wrth iddyn nhw weithio'n galed i sicrhau llwyddiant.

Meddai Shane, "Does dim tîm ieuenctid wedi bod yma ers tair blynedd gan fod y chwaraewyr gorau wedi gadael i chwarae dros dimoedd eraill yn yr ardal, fel Brynaman, Betws a Chwmllynfell. Pan ro'n i'n tyfu i fyny, roedd bod yn rhan o dîm ieuenctid yn bwysig iawn ac yn caniatáu i'r bois ifanc ddod trwy'r system a datblygu cyn symud ymlaen i chwarae i'r tîm cyntaf."

Mae pethau'n galonogol ar ddechrau'r tymor gydag ymateb da i alw Shane am dîm ieuenctid newydd i'r Aman. Ond yn eu gêm gyntaf yn yr haf, mae'r garfan yn colli'n drwm yn erbyn Abercraf a'r diffyg disgyblaeth ymhlith y bois yn amlwg. A yw'r her yn ormod i gyn-chwaraewr y flwyddyn yr IRB?

Esbonia, "Ar ddechrau'r tymor, doedd dim lot o siâp na strwythur i'r chwarae, a'r bechgyn yn chwarae fel unigolion yn lle fel uned, a roedd rhai ohonynt yn y safleoedd anghywir. Roedd y gwrthwynebwyr yn chwalu ein sgrym a'n blaenwyr ni yn cael eu gwthio nôl bob tro. Doedd neb wedi dysgu sut i daflu'r bêl i mewn i'r lein neu i chwarae mewn sgrym ac roedd yn rhaid dechrau o'r dechrau. Ro'n i'n gwybod yn syth bod angen help rhywun fel Derwyn Jones i weithio'n agos gyda'r chwaraewyr yn y safleoedd yna."

Ychwanega Derwyn Jones, fydd hefyd yn rhan o dîm gyflwyno Y Clwb Rygbi Rhyngwladol ar S4C yn ystod Pencampwriaeth y Chwe Gwlad, "Nid rhaglen am rygbi yw hwn, ond rhaglen am gymuned gyfan. Mae'n bosib i bob cymuned yng Nghymru uniaethu â'r Aman. Mae'r un fath o gymeriadau ymhobman ac mae'r un problemau yn codi mewn clybiau ar draws Cymru.

"Nid yn unig ydyn ni yma i wella tîm rygbi ond i wella sgiliau unigol a chael rhywfaint o effaith ar fywydau'r crwts ifanc. O 'mhrofiad i, os gelli di wella sgiliau'r bois ifainc ar y maes chwarae, mae'n dueddol o gael effaith ar eu bywydau oddi ar y cae rygbi a'u gwneud nhw'n bobl well."

Yn ystod y gyfres chwe-rhan, bydd wynebau amlwg ym myd y gamp fel hyfforddwr Cymru, Warren Gatland, bachwr y Gweilch Mefin Davies a blaenwr y Scarlets Josh Turnbull yn cynnig cymorth i'r chwaraewyr. Hefyd, cawn ddilyn y garfan yn hyfforddi'n ddwys yng Nghanolfan Ragoriaeth Undeb Rygbi Cymru, yn chwilio am ffyrdd o godi arian ac yn wynebu her eithafol twyni tywod Merthyr Mawr.

Er bod ganddo ychydig o flynyddoedd ar ôl ar y cae chwarae, tybed oes yna ddyfodol i Shane fel hyfforddwr rygbi?

Meddai Shane, "Ar y safon yma mae'n ddigon ffein. Mae'n bosib ichi gael sbort a sbri ac i fwynhau gyda'r chwaraewyr. Does dim llawer o bwysau ar eich ysgwyddau ar y lefel yma, yn wahanol i hyfforddi un o'r rhanbarthau neu'r garfan genedlaethol. Fi heb ystyried y dyfodol eto i fod yn gwbl onest a bydd yn rhaid aros i weld beth sydd rownd y gornel."

Un peth sy'n sicr wrth grybwyll y dyfodol wrth Shane Williams, dyw e ddim yn edrych ymlaen at ymddeol a gorfod gwneud lle i'r genhedlaeth nesaf o asgellwyr Cymreig. Amser a ddengys os mai bywyd llawn amser ar ochr yr ystlys fel hyfforddwr sydd o'i flaen – gyda'r Aman neu Gymru.

Clwb Rygbi Shane
Nos Fawrth, 21:00

Cynhyrchiad Boomerang+ ar gyfer S4C

© 2010 S4C
O Gymru / Made in Wales