Neidio at y cynnwys

S4C

Clwb Rygbi Shane

  • Y Rhaglen
  • Tîm Hyfforddi
  • Y Tîm
  • Amserlen

Shane Williams

Shane Williams

Enw: Shane Williams
Swyddogaeth: Prif Hyfforddwr
Safle: Asgellwr
Oed: 33
Taldra: 5'7''
Uchelgais: Creu tîm cryf
Ffaith: 3ydd yn rhestr prif sgorwyr ceisiau'r byd

Ganwyd Shane Mark Williams ar y 26ain o Chwefror 1977. Mae’n chwaraewr Rygbi'r Undeb i dîm y Gweilch a Chymru. Yn chwarae ar yr asgell mae e’n enwog am ei ochrgamu, a’i gyflymder. Mae e wedi’i ddisgrifio fel un o asgellwyr mwyaf cyffrous y byd ac ar hyn o bryd mae e’n drydydd yn y rhestr sgorio ceisiau rhyngwladol. Yn 2008 cafodd ei enwi fel chwaraewr Ryngwladol y flwyddyn gan yr IRB

Ganwyd yn Nhreforys yn Abertawe ond yng Nglanaman y tyfodd lan. Chwaraeodd rygbi yn yr ysgol gynradd ond gan ei fod mor fach o gorff, hyd yn oed yn cyrraedd Ysgol Uwchradd Cwmaman, fe ddechreuodd chwarae pêl droed. Chwaraeodd i Cwmaman United A.F.C. Bu’n chwarae yno hyd at lefel hŷn, ond roedd yn dal i chwarae rygbi bob hyn a hyn. Ond ar ddiwrnod gêm Cwpan Cwmaman United penderfynodd Shane dderbyn gwahoddiad i chwarae rygbi gyda’i ffrindiau yng nghlwb rygbi yr Aman. Enillodd yr Aman o 82 pwynt ac fe sgoriodd Shane bump cais.

Dechreuodd ei yrfa ieuenctid fel mewnwr yn yr Aman ac, er ei fod yn cefnogi Llanelli, fe ymunodd â Chastell Nedd fel mewnwr wrth gefn. Ond daeth yn amlwg i’r hyfforddwr ar y pryd, Lyn Jones, bod angen Shane ar y tîm ac mi chwaraeodd ar yr asgell dde gyda Delme Williams ar y chwith; wedyn mi newidiodd Lyn nhw o gwmpas. Arwyddodd gytundeb gyda Chastell Nedd am £7500 y flwyddyn.

Cafodd ei gap cyntaf ar y fainc yn erbyn Ffrainc ym Mhencampwriaeth y Chwe Gwlad 1999–2000 yn 22ain oed. Yn ei gêm gyfan gyntaf yn erbyn yr Eidal sgoriodd gais ac ar ôl hynny mae e wedi sgorio 53 cais rhyngwladol ac ennill 73 cap dros Gymru, mwy nag un asgellwr arall.

Yn ystod Pencampwriaeth y Chwe Gwlad yn 2005, roedd yn rhan o dîm Cymru a gyflawnodd y Gamp Lawn, gan sgorio cais yr un yn erbyn yr Eidal, yr Alban a Lloegr. Dewiswyd ef i fynd i Seland Newydd gyda'r Llewod yn yr un flwyddyn. Sgoriodd bum cais mewn gêm yn erbyn Manawatu.

Yn ystod Pencampwriaeth y Chwe Gwlad 2008, sgoriodd ddau gais yr un yn erbyn yr Alban a'r Eidal a chais yn erbyn Iwerddon; y cais yn erbyn Iwerddon oedd y 40fed iddo ei sgorio dros Gymru, a’i roi’n gydradd â Gareth Thomas fel y sgoriwr uchaf dros Gymru. Yng ngêm olaf y pencampwriaeth, yn erbyn Ffrainc, sgoriodd gais arall i dorri'r record. Ar ddiwedd y gystadleuaeth, enwyd ef yn chwaraewr y pencampwriaeth.

Ym mis Tachwedd 2008, Shane Williams oedd y Cymro cyntaf i gael ei enwi fel chwaraewr rhyngwladol y flwyddyn gan yr IRB. Ac wedyn ym mis Rhagfyr enillodd yr anrhydedd o fod yn Bersonoliaeth Chwaraeon Cymreig y Flwyddyn BBC Cymru

Daeth ei gais yn erbyn yr Alban yn gêm gyntaf Pencampwriaeth y Chwe Gwlad 2009 a'i gyfanswm i 45 cais.

Aeth gyda’r Llewod i Dde Affrig yn 2009 ac, er colli ei le yn y ddau brawf cyntaf, chwaraeodd yn y prawf olaf ac ef oedd chwaraewr mwyaf disglair y gêm yn cyfrannu dau gais at y fuddugoliaeth o 28 – 9.

Ar Dachwedd 21 2009, sgoriodd ddau gais ym muddugoliaeth gysurus Cymru dros yr Ariannin yn Stadiwm y Mileniwm a chyrraedd 50 cais dros ei wlad.

Ar 13 o Chwefror 2010, sgoriodd Shane y cais ddaeth a buddugoliaeth i Gymru dros yr Alban i gwblhau camp ryfeddol gan y tîm. Gyda 4 munud ar ôl roedd Cymru’n colli o 24 i 14 a daeth cais Shane, symudiad olaf y gêm a buddugoliaeth i Gymru o 31 i 24. Hon oedd gêm ryngwladol lawn rhif 49 i Shane (51 ym mhob gêm dros Gymru) a’i 18fed ym Mhencampwriaeth y Chwe Gwlad, oedd yn dod yn gyfartal â record Gareth Edwards i chwaraewr dros Gymru.

Ar 26 Chwefror 2010, Sgoriodd Shane unwaith eto yn y munud olaf dros ei wlad yn erbyn Ffrainc. Yn anffodus, fe gollodd Cymru o 26 i 20 y tro hwn ond fe roddodd Shane Williams ar frig y rhestr o sgorwyr ceisiau yn y gystadleuaeth chwe gwlad dros Gymru ar ei ben ei hun gyda 19 o geisiau.

© 2010 S4C
O Gymru / Made in Wales