Neidio at y cynnwys

S4C

Clwb Rygbi Shane

  • Y Rhaglen
  • Tîm Hyfforddi
  • Y Tîm
  • Amserlen

Amserlen

Pennod Arbennig

Nos Iau 9 Mehefin am 21:00

Mae’n anodd credu nad oedd y tîm yn bodoli llynedd a bod criw o fechgyn ifanc yr ardal wedi dod at ei gilydd i hyfforddi a dysgu gyda’r chwaraewr rhyngwladol a brodor o’r Aman, Shane Williams, a chyn-glo Cymru Derwyn Jones.

Bydd pennod arbennig o Clwb Rygbi Shane ar nos Iau 9 Mehefin (21:00) yn edrych nôl ar uchafbwyntiau ac isafbwyntiau’r tymor yn ogystal ag anturiaethau diweddaraf Piggy, Dingram, John Vince, Elinor a’r criw.

Cawn weld y gorau o gystadlu yn nhwrnamaint 10 bob ochr a drefnwyd gan Shane. Yno, bydd criw'r Aman yn cystadlu yn erbyn timau lleol ac o bell, yn ogystal â chynnig help llaw i Shane yn stiwardio, rhedeg stondinau a chodi arian i elusennau.

“Dyma’n cyfle ni i roi rhywbeth nôl i’r Aman,” eglura’r Dewin o’r Aman, Shane Williams. “Mae’r gefnogaeth i glwb rygbi’r Aman gan y bobl leol a thu hwnt wedi bod yn anhygoel felly mae’r carnifal rygbi yn rhyw fath o ddathliad o lwyddiant y tymor. Mae hefyd yn gyfle i’r tîm ieuenctid ddangos eu doniau ar y cae rygbi am y tro olaf cyn cael saib dros yr haf.”

Yn ystod eu gêm gyntaf nhw ar ddechrau’r tymor, collodd y garfan yn drwm yn erbyn Abercraf ac roedd problem disgyblaeth yn amlwg ymhlith y bechgyn. Ond sut siâp sydd ar y garfan erbyn hyn?

Meddai Shane, “Mae’r gwahaniaeth wedi bod yn anhygoel ar hyd y tymor. Doedd dim siâp i ddechrau ac roedd camgymeriadau sylfaenol yn costio’n ddrud. Ond mae’n rhaid cofio bod nifer o’r bechgyn yn 16 oed yn chwarae yn erbyn bois 19 oed – bois sy’n fwy mewn maint ac yn gryfach ‘na nhw.

“Daeth newid cyfeiriad hanner ffordd drwy’r tymor. Mae’r bois wedi chwarae fel tîm ac wedi dod yn agos i guro’r timau wnaeth rhoi crasfa iddyn nhw ar ddechrau’r tymor. Yn barod mae yna sôn am y tymor nesaf ac am yr ymarferion dros yr haf. Ma’ na gynnwrf yma a phawb yn dod ymlaen yn dda. Roedd chwarae gyda’r ieuenctid yn gyfnod bythgofiadwy ifi ac mae’n gyfle i fechgyn yr Aman wneud lot o ffrindiau newydd a chael atgofion arbennig.

“Mae pawb wedi gweithio’n galed i sicrhau llwyddiant i’r prosiect – y bois, y gymuned leol a’r staff tu ôl i’r llenni yn y clwb. Rwy’n gobeithio fod tîm ieuenctid yn rhywbeth fydd yn cario mlaen am dymhorau i ddod. Ond am nawr, mae Piggy, Dingram a’r lleill yn mwynhau cael bod yn selebs lleol ac arwyddo llofnodion!”

Pennod Chwech

Nos Fawrth 15 Mawrth am 21:00

Ar ddechrau'r tymor fe gafodd tîm newydd Shane eu maeddu gan eu gelynion lleol Brynaman. Crasfa boenus o dros hanner can pwynt! Nawr, mae'n amser i’w chwarae nhw eto! Gyda Simon Davies yr hyfforddwr newydd strict wrth y llyw a'r anfarwol Clive Rowlands yno i'w hysbrydoli cyn y gêm - a fydd y canlyniad yn wahanol? A fydd tystiolaeth fod tîm rygbi Shane wedi gwella?

Pennod Pump

Nos Fawrth 8 Mawrth am 21:00

Yr Hwntws yn erbyn y Gogs! Dyma thema y bennod yma o Clwb Rygbi Shane. Mae bois Yr Aman yn teithio i Ogledd Cymru i herio tîm ieuenctid Caernarfon. Gyda'r dewin bach i ffwrdd gyda charfan Cymru, Derwyn yn brysur yn darlledu a'r tîm heb hyfforddwr yn dilyn gwaharddiad Carl - mae Cadeirydd y Clwb Darrel Campbell yn diosg ei siwt, yn camu mewn i'w dracwisg ac yn ceisio cadw trefn ar fois gwyllt Yr Aman ar y daith i dre'r Cofis!

Pennod Pedwar

Nos Fawrth 22 Chwefror am 21:00

Tra bod Shane i ffwrdd yn gweithio gyda thîm Rygbi Cymru mae gwaith caled y tîm a'r hyfforddwr ifanc Carl Jones yn dod a buddugoliaeth gofiadwy yn erbyn Pontarddulais. Er hyn mae diffyg disgyblaeth y bois yn dod i'r amlwg eto ac yn sarnu'r dathliadau!

Mae'r eira mawr a'r tywydd rhewllyd yn achosi i lawer o gemau gael eu canslo felly mae Rheolwr y tîm a Mr Pob Dim Yr Aman (John Vince) yn mynd ati i godi arian ar gyfer y clwb. Mae ei ddoniau fel ffotograffydd amatur yn cael eu hymestyn i'r eithaf wrth ffilmio calendr gyda bois gwyllt Clwb Rygbi Shane

Pennod Tri

Nos Fawrth 15 Chwefror am 21:00

Mi fydd Tîm Ieuenctid yr Aman yn ymweld â Shane yn Stadiwm y Mileniwm wrth iddo baratoi ar gyfer gemau rhyngwladol yr Hydref gyda gweddill tîm Cymru. Mi fydd y rheng flaen yn cael sesiwn hyfforddi gyda bachwr y Gweilch, Mefin Davies ac a fydd diffyg disgyblaeth yn rhoi gêm y Tymbl yn y fantol?

Pennod Dau

Nos Fawrth 8 Chwefror am 22:00

Ar ôl colli’n drwm i dimau profiadol Abercraf a Brynaman mae Shane yn penderfynu bod angen help arno – yn enwedig i hyfforddi’r blaenwyr yn y sgrymiau a’r llinellau. Mae’n job fawr sy’n galw am ddyn mawr a does neb yn fwy na’r cawr Derwyn Jones. Ble well i gyflwyno hyfforddwr newydd enfawr nag ynghanol twyni tywod mwyaf Cymru – yn Merthyr Mawr ger Penybont. Dyma lecyn chwedlonol ar gyfer hyfforddi ffitrwydd, ac mae bois Yr Aman yn diodde’n enbyd yn y tywod meddal!

Gyda Shane yn hyfforddi’r olwyr a Derwyn yn hyfforddi’r blaenwyr mae’r “bartneriaeth” yn bwrw ati gyda’r gwaith caled ar Barc Yr Aman. Os oedd y twyni tywod yn artaith mae’r profiad sy’n wynebu’r bechgyn nesaf yn bleser pur. Yng Ngwesty’r Fro mae Canolfan Ragoriaeth Genedlaethol Undeb Rygbi Cymru. Dyma ble mae Warren Gatland a’r hyfforddwyr cenedlaethol yn paratoi timau Cymru, ac yma mae cyfleusterau hyfforddi rygbi gorau’r byd. Ac i fan hyn mae Shane a Derwyn yn dod â bois ifanc Yr Aman am sesiynau gyda hyfforddwyr arbenigol Cymru – sesiynau cyflymder, sgiliau, ffitrwydd a dadansoddi. Maent yn cael eu trin a’u hyfforddi fel athletwyr “elite” – profiad ysbrydoledig os bu un erioed.

Pennod Un

Nos Fawrth 1 Chwefror am 21:00

Mae'r asgellwr rhyngwladol Shane Williams wedi gorfod wynebu sawl her yn ystod ei yrfa lewyrchus. Ond mewn cyfres newydd ar S4C, bydd Shane yn wynebu'r dasg anodd o sefydlu a hyfforddi tîm ieuenctid Clwb Rygbi'r Aman gyda chymorth rhai o'i ffrindiau ym myd y gamp. Cawn ddilyn datblygiad y garfan dros gyfnod o flwyddyn, ond ar gychwyn y tymor newydd, sut siâp fydd i'r tîm ieuenctid ac a oes modd ail greu llwyddiannau'r gorffennol unwaith eto? Dyw hi ddim yn edrych yn debygol pan fo'r garfan yn colli'n drwm yn erbyn Aberafan yn eu gêm gyntaf yn yr haf a'r diffyg disgyblaeth yn amlwg - a yw'r her yn ormod i Shane, y dewin o'r Aman?

© 2010 S4C
O Gymru / Made in Wales