Ar ôl 6 mis o waith caled gan bawb, mae'r gyfres yma o Codi Canu wedi dod i ben. Llongyfarchiadau mawr i bawb a gyfrannodd at lwyddiant y gyfres. Mae S4C wedi anfon neges o ganmol a llongyfarch. Roedd dydd Sadwrn yn ddiwrnod hir a chaled i bawb — yn gorau, arweinyddion, mentoriaid a thîm technegol a chynhyrchu — diolch am eich hamynedd a'ch egni. Roedd y ffaith bod y tywydd mor ddrwg ar ddiwedd yr wythnos wedi gorfodi'r tîm cynhyrchu i weithio oriau di-ri ychwanegol ar fyr rybydd i ail olygu eitemau rhag ofn i rai corau fethu gwneud y siwrnai! Diolch am lwyddo i gyrraedd y Neuadd (nifer ohonnoch ar ol taith hirach o lawer na'r disgwyl) ac am berfformio mor arbennig fel corau unigol a chor unedig! Gwefreiddiol!
Roedd safon y canu a'r arwain yn wych a gobeithiwn eich bod wedi cael cyfle i ddadflino ac ymlacio.
Llongyfarchiadau arbennig i Gôr y Rhos, Geraint a Stifyn am ddod yn fuddugol ond, ys dywed yr ymadrodd, nid yr ennill sy'n bwysig ond y "cymeryd rhan". Diolch i bawb!
Canlyniad:
| 1. | RHOS | 47% |
| 2. | RHONDDA | 19% |
| 3. | TAWE | 18% |
| 4. | OGWEN | 16% |
Pleidlais y Beirniaid:
| 1. | RHOS | 50% |
| 2. | TAWE | 22% |
| 3. | RHONDDA | 17% |
| 4. | OGWEN | 12% |
Pleidlais y Gwylwyr:
| 1. | RHOS | 43% |
| 2. | RHONDDA | 22% |
| 3. | OGWEN | 20% |
| 4. | TAWE | 15% |
Codi Canu – Y Rhaglen Fyw - Rheolau Pleidleisio
© 2010 S4C
O Gymru / Made in Wales