Neidio at y cynnwys

S4C

Y Beirniad

Owain Arwel Hughes CBE


Prif Arweinydd Gwadd: Cerddorfa y Cape Philarmonic
Cyfarwyddwr Cerdd: Camerata Wales
Cyfarwyddwr Cerdd: Cerddorfa Ieuenctid Cenedlaethol Cymru

Mewn gyrfa sydd wedi ymestyn dros 40 mlynedd, mae Owain Arwel Hughes wedi arwain a recordio gyda rhai o gerddorfeydd mwya’r byd. Yn 2007; cafodd ei apwyntio'n Brif Arweinydd Gwadd gyda cherddorfa Cape Philharmonic, lle recordiodd berfformiad cyntaf y gwaith corawl 'Nagasaki' gan Schnittke. Owain yw sylfaenydd a Chyfarwyddwr Artistig Proms Cymru a ddechreuwyd yn 1986. Mae’r Ŵyl wedi datblygu i fod yn un o wyliau mwyaf Prydain, ac mae artistiaid mwyaf a cherddorfeydd gorau’r byd yn perfformio yno. Ers 2003 mae Owain yn Gyfarwydd Cerdd Cerddorfa Genedlaethol Ieuenctid Cymru, cerddorfa ieuenctid hynaf y byd.

Dros y blynyddoedd, mae Owain wedi cael cysylltiadau gydag amrywiol gerddorfeydd: bu’n Arweinydd Cysylltiol gyda Cherddorfa’r Philharmonia, Cerddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC a Phrif Arweinydd Cysylltiol gyda Cherddorfa y Royal Philarmonic. Fel prif arweinydd Cerddorfa Symffoni Aalborg, Denmark, fel lwyddodd Owain i godi proffil y gerddorfa trwy recordio prif weithiau cyfansoddwyr o’r wlad. Yn enwog am arwain gweithiau corawl ar raddfa eang, cafodd Owain Arwel Hughes gyfnod llwyddiannus yn arwain Cymdeithas Gorawl Huddersfield rhwng 1980 a 1986.

Mae gan Owain Arwel Hughes gysylltiad hir sefydlog gyda chwmni recordio BIS, a dros y blynyddoedd mae wedi recordio holl weithiau cerddorfaol, corawl a concerto'r cyfansoddwr Vagn Holmboe. Yn ogystal, mae wedi recordio symffonïau a holl weithiau concerto'r cyfansoddwr Rachmaninov. Yn ddiweddar, mae wedi rhyddhau recordiad o’r Planets gan Holst gyda Cherddorfa y Royal Philhamonic, holl symffonïau ac agorawdau Brahms gyda Cherddorfa y Stuttgart Philharmonic, a hefyd holl weithiau piano a cherddorfaol Tchaikovsky gyda Cherddorfa Symffoni Aalborg. Yn 2008/2009; cafodd recordiad o berfformiad cyntaf y Concerto Grosso a Symffoni Rhif 9 gan Schnittke ei ryddhau gyda Cherddorfa y Cape Philarmonic. Yn 2010/2011; bydd Owain yn rhyddhau recordiadau o Symffonïau rhif 1 a 2 gan Walton gyda Cherddorfa National de Lille a CD o gerddoriaeth Arwel Hughes gyda Cherddorfa y Royal Philarmonic.

Fel arweinydd, mae Owain yn gysylltiedig â Cherddorfa y Royal Philarmonic, Cerddorfa’r Philharmonia, Cerddorfa Gyngerdd y BBC, Cerddorfa Symffoni Newfoundland, Aalborg Symfoniorkester, Cerddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC, Cerddorfa y Royal Liverpool Philharmonic, Cerddorfa Cape Philharmonic, Cerddorfa Symffoni Bournemouth ac Orchestre National de Lille.

Mae cyfraniad Owain at gerddoriaeth wedi cael ei gydnabod, ac mae wedi cael ei anrhydeddu gyda doethuriaeth mewn naw prifysgol. Yn 2004; cafodd ei anrhydeddu gyda OBE ac yna ym mis Ionawr 2009 fe dderbyniodd CBE fel cydnabyddiaeth am ei waith yn gysylltiedig ag elusennau a’i wasanaeth at gerddoriaeth.

© 2010 S4C
O Gymru / Made in Wales