Mae Codi Canu yn dychwelyd am gyfres arall ar S4C. Bwriad y gyfres yw darganfod côr rhanbarthol gorau Cymru. Mae pedwar côr cymunedol mawr wedi cael eu ffurfio mewn gwahanol ardaloedd , gyda phob côr yn cael ei arwain gan rai o brif arweinyddion y genedl. Yn eu cynorthwyo bydd rhai o wynebau mwyaf cyfarwydd Cymru.
Mae’r daith wedi cychwyn ers mis Mehefin, ac mae’r ymarferion wedi dechrau nôl ar ôl gwyliau'r haf. Bydd yr uchafbwynt ym mis Tachwedd wrth i'r corau gystadlu am deitl Codi Canu mewn cyngerdd yn Neuadd Dewi Sant yng Nghaerdydd.
© 2010 S4C
O Gymru / Made in Wales