
Mae’r sioe fyw a’r gystadleuaeth rhwng 4 rhanbarth Codi Canu yn cael ei chynnal yn Neuadd Dewi Sant ar ddydd Sadwrn y 27ain o Dachwedd. Gobeithio y cewch chi noson arbennig – diolch yn fawr am fod yn rhan o’r gyfres!
Edrychwn ymlaen i'ch croesawu ddydd Sadwrn – MAE POB LLAIS YN CYFRI!
Mae’r bysiau wedi eu trefnu i’ch tywys i’r gyngerdd ar dydd Sadwrn y 27ain – ac i ddychwelyd i Bishop Vaughan Catholic School, Morriston yr un noson.
Byddwn yn darparu swper i chi ar y Nos Sadwrn a bydd tê, coffi a dwr ar gael trwy gydol y dydd. Rydym yn eich argymell i ddod a phecyn bwyd a diod fel cinio
Beth sydd angen i chwi ddod ?:
Potel diod/dwr a phecyn bwyd (byrbrydiau os y hoffwch)
Eich cerddoriaeth
Dewch a’ch gwisg ar gyfer y gyngerdd, ond PEIDIWCH a theithio ynddo. Dylai eich gwisg fod yn bennaf yn ddu, ond gyda splash o glas (tei, dici-bô, clustlysau, perlau, scarff ayyb)
Amserlen:
11:15: Cyfarfod ym Maes Parcio Bishop Vaughan Catholic School, Mynyd Garnllwyd Road, Treforys, SA6 7QG. Gallwch barcio ym maes y bysiau, mynedfa o naill Mynydd Garnllwyd Road neu Caemawr Road.
11:30: Llwytho’r bws, a gadael Bishop Vaughan Catholic School, mae’r bws yn mynd a chi yn syth i Neuadd Dewi Sant.
12:30: Cyrraedd Neuadd Dewi Sant
Os ydych yn gwneud eich trefniadau teithio eich hun, mae’n rhaid i chi gyrraedd Neuadd Dewi Sant erbyn 13.00yh ar gyfer eich ymarfer. PEIDIWCH a bod yn hwyr, neu bydd eich côr yn colli eu slot ymarfer.
13:30 Ymarfer gyda Eilir Owen Griffiths a Beti George.
14:00-15:00: Amser bwyta cinio a chael ymarfer arall cefn llwyfan os oes angen.
15:00: Ymarfer y Côr Mawr gyda Owain Arwel Hughes a’r gerddorfa.
17:00: Swper (Bwyd Poeth, 2 ddewis gwahanol a 2 opsiwn llysieuol. Os oes unrhyw anghenion eraill bydd gofyn i chi drefnu eich bwyd eich hun). Bydd teledu yn yr ystafell fwyta i chi gael gwylio Cymru v Seland Newydd
18:00: Newid i’ch gwisg (du a glas). Cewch wybod lle mae’r ystafell newid ar y dydd.
19:00: Paratoi cefn llwyfan.
19:30: Y gynulleidfa’n cyrraedd.
20:00: Cyngerdd Byw.
22:15: Diwedd y Gyngerdd.
23:00: Bydd y bws yn eich casglu ac yn mynd a chi yn nôl i Bishop Vaughan Catholic School. Bydd y gyrrwr yn gadael i chi wybod o ble y byddwch yn cael eich casglu. (Neu wrth gwrs, mae croeso i chi fwynhau’r noson a threfnu eich trafnidiaeth eich hun yn ôl adre ar ôl 23:00yh – does dim hawl i adael eich ceir yma dros nos. Fydd y gatiau wedi cloi).
Gan y byddwch chi'n cyrraedd nol i'r ysgol yn hwyr yn y nos mae’r Ysgol wedi gofyn yn garedig i chi fod mor dawel a phosib – Diolch i chi am eich cydweithrediad.
Cysylltwch ag Inge ar y rhifau isod os oes unrhyw gwestiynnau pellach – neu ar e-bost: inge.hanson@boomerang.co.uk
Edrychwn ymlaen i’ch gweld ddydd Sadwrn!
Cofion,
Inge Hanson
02920 590 138/07808 965 892* (*unrhyw broblem ar y dydd – defnyddiwch y rhif symudol)

Mae’r sioe fyw a’r gystadleuaeth rhwng 4 rhanbarth Codi Canu yn cael ei chynnal yn Neuadd Dewi Sant ar ddydd Sadwrn y 27ain o Dachwedd. Gobeithio y cewch chi noson arbennig – diolch yn fawr am fod yn rhan o’r gyfres!
Edrychwn ymlaen i'ch croesawu ddydd Sadwrn – MAE POB LLAIS YN CYFRI!
Edrychwn ymlaen i groesawu chi gyd ddydd Sadwrn – MAE POB LLAIS YN CYFRI! Mae’r bysiau wedi eu trefnu i’ch tywys i’r gyngerdd ar ddydd Sadwrn y 27ain – ac i’ch dychwelyd i Clwb NUM Cambrian Tonypandy yr un noson.
Byddwn yn darparu swper i chi ar y Nos Sadwrn a bydd tê, coffi a dwr ar gael trwy gydol y dydd. Rydym yn eich argymell i ddod a phecyn bwyd a diod fel cinio
Beth sydd angen i chwi ddod gyda chi?:
Potel diod/dwr a phecyn bwyd (byrbrydiau os y hoffwch)
Eich cerddoriaeth
Dewch a’ch gwisg ar gyfer y gyngerdd, ond PEIDIWCH a theithio ynddo. Dylai eich gwisg fod yn bennaf yn ddu, ond gyda splash o coch (tei, dici-bô, clustlysau, perlau, scarff ayyb)
Amserlen:
11:15: Cyfarfod ym Maes Parcio Clwb NUM Cambrian, Tonypandy, Llwynypia Road, CF40 2ES.
11:30: Llwytho’r bws, ac ymadael Clwb NUM Cambrian, mae’r bws yn mynd a chi yn syth i Neuadd Dewi Sant.
12:30: Cyrraedd Neuadd Dewi Sant
Os ydych yn mynd i wneud trefniadau teithio, mae’n rhaid i chi gyrraedd Neuadd Dewi Sant erbyn 12.30yh ar gyfer eich ymarfer. PEIDIWCH a bod yn hwyr, neu bydd eich côr yn colli eu slot ymarfer.
13:00: Ymarfer gyda Donna Edwards a Delyth Medi.
13:30-15:00: Amser i chi fwyta cinio a chael ymarfer arall cefn llwyfan os oes angen.
15:00: Ymarfer y Côr Mawr gyda Owain Arwel Hughes a’r gerddorfa.
17:00: Swper (Bwyd Poeth, 2 ddewis gwahanol a 2 opsiwn llysieuol. Os oes unrhyw anghenion eraill bydd gofyn i chi drefnu eich bwyd eich hun). *Bydd teledu yn yr ystafell fwyta i chi gael gwylio Cymru v Seland Newydd
18:00: Newid i’ch gwisg (du a coch). Cewch wybod lle mae’r ystafell newid ar y dydd.
19:00: Paratoi cefn llwyfan.
19:30: Y gynulleidfa’n cyrraedd.
20:00: Cyngerdd Byw.
22:15: Diwedd y Gyngerdd.
23:00: Bydd y bws yn eich casglu ac yn mynd a chi yn nôl i Clwb NUM Cambrian, Bydd y gyrrwr yn gadael i chi wybod o ble y byddwch yn cael eich casglu. (Neu wrth gwrs, mae croeso i chi fwynhau’r noson a threfnu eich trafnidiaeth eich hun yn ôl adre ar ôl 23:00yh).
Cysylltwch ac Inge ar y rhifau isod os oes unrhyw gwestiynnau pellach – neu ar e-bost: inge.hanson@boomerang.co.uk
Edrychwn ymlaen i’ch gweld ddydd Sadwrn!
Cofion,
Inge Hanson
02920 590 138/07808 965 892* (*unrhyw broblem ar y dydd – defnyddiwch y rhif symudol)

Mae’r sioe fyw a’r gystadleuaeth rhwng 4 rhanbarth Codi Canu yn cael ei chynnal yn Neuadd Dewi Sant ar ddydd Sadwrn y 27ain o Dachwedd. Gobeithio y cewch chi noson arbennig – diolch yn fawr am fod yn rhan o’r gyfres!
Edrychwn ymlaen i'ch croesawu ddydd Sadwrn – MAE POB LLAIS YN CYFRI!
Edrychwn ymlaen i groesawu chi gyd ddydd Sadwrn – MAE POB LLAIS YN CYFRI!
Mae’r bysiau wedi eu trefnu i’ch tywys i’r gyngerdd ar dydd Sadwrn y 27ain – ac ddychwelyd i Ysgol
Dyffryn Ogwen ar y diwrnod canlynol, Sul 28ain o Dachwedd. Rdym hefyd wedi trefnu a thalu am westy i bob aelod o’r côr (sy’n cynnwys brecwast).
Byddwn yn darparu swper i chi ar y Nos Sadwrn a bydd tê, coffi a dwr ar gael trwy gydol y dydd. Rydym yn eich argymell i ddod a phecyn bwyd a diod fel cinio ar y bws, bydd seibiant yn ystod y daith felly bydd cyfle i brynnu bwyd ar y ffordd.
Beth sydd angen i chi ddod?:
Potel diod/dŵr a phecyn bwyd (ar gyfer y siwrne)
Eich cerddoriaeth
Dewch â’ch gwisg ar gyfer y gyngerdd, ond PEIDIWCH a theithio ynddo. Dylai eich gwisg fod yn bennaf yn ddu, ond gyda splash o felyn (tei, dici-bô, clustlysau, perlau, scarff ayyb)
Bag nos – Paciwch unrhywbeth y pethau arferol ar gyfer noson oddi-gartref – gan gynnwys meddygyniaeth, brwsh danedd, trôns glân ac ati!
Amserlen:
Dydd Sadwrn 27ain o Dachwedd
07:00: Cyfarfod yn Ysgol Dyffryn Ogwen, Ffordd Coetmor, Bethesda, Gwynedd, LL57 3NN.
07:00: Llwytho’r bws, ac ymadael Ysgol Dyffryn Ogwen, byddwn yn mynd a chi’n yn syth i’r gwesty – Premier Inn Cardiff North, Pentwyn Road, Cardiff, CF23 7XH.
12:00: Cyrraedd y gwesty. Dadlwytho bagiau a chofrestru yn y gwesty. Os nad yw eich ystafell ar yn barod bydd y gwesty yn cadw eich bag mewn ystafell dan glo – bydd cyfle i gofrestru ar ôl y gyngerdd. Ail-lwytho’r bws yn brydlon, cofiwch dod a’ch wisg cyngerdd gyda chi ar y bws. Ni fyddwch yn dychweld i’r gwesty eto tan AR ÔL y gyngerdd.
Mae’n rhaid i chi gyrraedd Neuadd Dewi Sant erbyn 14.00yh ar gyfer eich ymarfer. PEIDIWCH a bod yn hwyr, neu bydd eich côr yn colli eu slot ymarfer.
14:30: Ymarfer gyda Neil Williams a Mari Pritchard.
15:00: Ymarfer y Côr Mawr gyda Owain Arwel Hughes a’r gerddorfa.
17:00: Swper (Bwyd Poeth, 2 ddewis gwahanol a 2 opsiwn llysieuol. Os oes unrhyw anghenion eraill bydd gofyn i chi drefnu eich bwyd eich hun) *Bydd teledu yn yr ystafell fwyta i chi gael gwylio Cymru v Seland Newydd
18:00: Newid i’ch gwisg (du a gwyrdd). Cewch wybod lle mae’r ystafell newid ar y dydd.
19:00: Paratoi cefn llwyfan
19:30: Y gynulleidfa’n cyrraedd
20:00: Cyngerdd Byw
22:15: Diwedd y Gyngerdd
23:00: Bydd y bws yn eich casglu a yn mynd a chi yn nôl i’r gwesty. Bydd y gyrrwr yn gadael i chi wybod o flaen llaw ble yn union o ble. (Neu wrth gwrs, mae croeso i chi fwynhau’r noson a threfnu eich trafnidiaeth eich hun yn ôl i’r gwesty).
Dydd Sul 28ain o Dachwedd
08:00-09:30: Brecwast – mae brecwast yn wedi ei dalu gan y tîm cynhyrchu yn barod
10:00 Llwytho’r bws tu allan i’r gwesty – peidiwch bod yn hwyr a chadw gweddill y bws yn aros! *Bydd seibiant a hou ar y ffordd i fyny
15:00pm Cyrraedd y Ysgol Dyffryn Ogwen
Cysylltwch ac Inge ar y rhifau isod os oes unrhyw gwestiynnau pellach – neu ar e-bost: inge.hanson@boomerang.co.uk
Edrychwn ymlaen i’ch gweld ddydd Sadwrn!
Cofion,
Inge Hanson
02920 590 138/07808 965 892* (*unrhyw broblem ar y dydd – defnyddiwch y rhif symudol)

Mae’r sioe fyw a’r gystadleuaeth rhwng 4 rhanbarth Codi Canu yn cael ei chynnal yn Neuadd Dewi Sant ar ddydd Sadwrn y 27ain o Dachwedd. Gobeithio y cewch chi noson arbennig – diolch yn fawr am fod yn rhan o’r gyfres!
Edrychwn ymlaen i'ch croesawu ddydd Sadwrn – MAE POB LLAIS YN CYFRI!
Mae’r bysiau wedi eu trefnu i’ch tywys i’r gyngerdd ar ddydd Sadwrn y 27ain – ac i ddychwelyd i’r Stiwt ar y diwrnod canlynol, Sul 28ain o Dachwedd. Rydym hefyd wedi trefnu a thalu am westy i bob aelod o’r côr (sy’n cynnwys brecwast).
Byddwn yn darparu swper i chi ar y Nos Sadwrn a bydd tê, coffi a dwr ar gael trwy gydol y dydd. Rydym yn eich argymell i ddod a phecyn bwyd a diod fel cinio ar y bws, bydd seibiant yn ystod y daith felly bydd cyfle i brynnu bwyd ar y ffordd.
Beth sydd angen i chi ddod?:
Potel diod/dŵr a phecyn bwyd (ar gyfer y siwrne)
Eich cerddoriaeth
Dewch â’ch gwisg ar gyfer y gyngerdd, ond PEIDIWCH a theithio ynddo. Dylai eich gwisg fod yn bennaf yn ddu, ond gyda splash o felyn (tei, dici-bô, clustlysau, perlau, scarff ayyb)
Bag nos – Paciwch unrhywbeth y pethau arferol ar gyfer noson oddi-gartref – gan gynnwys meddygyniaeth, brwsh danedd, trôns glân ac ati!
Amserlen:
Dydd Sadwrn 27ain o Dachwedd
07:00: Cyfarfod o flaen y Stiwt, Broad Street, Rhosllanerchrugog LL14 1RB
07:00: Llwytho’r bws, a gadael unwaith mae’n llawn. Bydd y bws yn gadael y Stiwt ac yn mynd a chi’n syth i’r gwesty – Premier Inn, Cardiff City Centre, ar Churchill Way yng Nghaerdydd.
12:00: Cyrraedd y gwesty. Dadlwytho bagiau a chofrestru yn y gwesty. Cofiwch bydd dros 100 o bobl yn ceisio gwneud hyn yr un pryd – os na fydd eich ystafell yn barod bydd y gwesty yn cadw eich bag mewn ystafell dan glo – bydd cyfle i gofrestru yn hwyrach yn y dydd. (Gofynwn i chi beidio a gadael Neuadd Dewi Sant i gorfrestru yn y gwesty heb hysbysebu aelod o’r tîm cynhyrchu – nid ydym am i neb fynd ar goll.) Mae’r gwesty canllath-a-hanner o’r Neuadd – felly mae’n bosib cerdded i Neuadd Dewi Sant, ar Yr Aes, Caerdydd CF10 1AH (02920 878 500). Ond os oes unrhyw un yn teimlo nad ydynt yn gallu cerdded y pellter, yna bydd y cwmni bws yn darparu trafnidiaeth. Dywedwch wrth y gyrrwr wedi i chi gyrraedd.
Mae’n rhaid i chi gyrraedd Neuadd Dewi Sant erbyn 1.30yh ar gyfer eich ymarfer. PEIDIWCH bod yn hwyr, neu bydd eich côr yn colli eu slot ymarfer.
14:00: Ymarfer gyda Stifyn Parri a Geraint Roberts
15:00: Ymarfer y Côr Mawr gyda Owain Arwel Hughes a’r gerddorfa.
17:00: Swper (Bwyd Poeth, 2 ddewis gwahanol a 2 opsiwn llysieuol. Os oes unrhyw anghenion eraill bydd gofyn i chi drefnu eich bwyd eich hun). *Bydd teledu yn yr ystafell fwyta i chi gael gwylio Cymru v Seland Newydd
18:00: Newid i’ch gwisg (du a melyn). Cewch wybod ble mae’r ystafell newid ar y dydd.
19:00: Paratoi cefn llwyfan
19:30: Y gynulleidfa’n cyrraedd
20:00: Cyngerdd byw
22:15: Diwedd y gyngerdd
23:00: Dychwelyd i’r gwesty (Neu wrth gwrs, mae croeso i chi fwynhau’r noson a threfnu eich trafnidiaeth eich hun yn ôl i’r gwesty).
Dydd Sul 28ain o Dachwedd
08:00-09:30: Brecwast – mae brecwast yn wedi ei dalu gan y tîm cynhyrchu yn barod
10:00 Llwytho’r bws tu allan i’r gwesty – peidiwch bod yn hwyr! *Bydd seibiant ar y ffordd
15:00pm Cyrraedd y Stiwt
Cysylltwch ac Inge ar y rhifau isod os oes unrhyw gwestiynnau pellach – neu ar e-bost: inge.hanson@boomerang.co.uk
Edrychwn ymlaen i’ch gweld ddydd Sadwrn!
Cofion,
Inge Hanson
02920 590 138/07808 965 892* (*unrhyw broblem ar y dydd – defnyddiwch y rhif symudol)

Aelodau Côr Cwm Rhondda:
Mae’r ymarfer wythnos nesaf yn dechrau am 18:30yh – 23ain o Dachwedd. Mae Delyth a Donna yn gofyn bod PAWB YN MYNYCHU yr ymarfer olaf yma.
Diolch!

Peidiwch â cholli'r cyfle i weld un o'r corau rhanbarthol yn cael ei goroni'n enillwyr ar y noson!
Mae tocynnau ar gael o'r swyddfa docynnau ar 02920 878 444 neu ar-lein www.stdavidshallcardiff.co.uk.
Tocynnau AM DDIM i oedolion, plant a chonsesiynau.
Ymunwch â ni ar gyfer noson o hwyl a cherddoriaeth wych!

Ar Nos Fercher 10fed o Dachwedd mi fydd noson i deulu a ffrindiau yn dechrau am 20:30yh yn Ysgol Dyffryn Ogwen.
Mi fydd ymarfer yn Ysgol Dyffryn Ogwen yn dechrau am 19:30yh fel arfer, wedyn fydd croeso i deulu a ffrindiau cyrraedd am 20:30yh i wrando arnoch chi’n rhoi perfformiad byr iddyn nhw cyn noson y gyngerdd fawr am ddim.
Cofiwch hefyd mae’n bosib i deulu a ffrindiau gael tocynnau ar gyfer y gyngerdd fawr, Nos Sadwrn 27ain o Dachwedd gan Neuadd Dewi Sant yn uniongyrchol - dim ond nifer gyfyngedig o docynnau sydd ar gael, felly gwnewch yn siŵr bod chi’n archebu'n ddigon buan. Mae tocynnau ar gael o’r swyddfa docynnau ar 02920 878 444 neu ar-lein www.stdavidshallcardiff.co.uk. Tocynnau AM DDIM i oedolion, plant a chonsesiynau.
Nodyn olaf i chi hefyd - a byddwch chi mor garedig i adael i ni wybod, os dydych chi ddim wedi yn barod, a fyddwch chi’n mynychu’r ymarfer llawn i’r 4 côr yn y canolbarth ar Ddydd Sul 21ain o Dachwedd neu beidio.
Os oes unrhyw gwestiynau mae croeso i chi galw'r tîm cynhyrchu ar 02920 590 117.
Tîm Cynhyrchu Codi Canu

Aelodau Côr Ogwen a’r Cylch,
Mae ymarfer wythnos nesaf wedi cael ei ganslo (3 Dachwedd). Bydd ymarferion fel arfer ar y Dydd Mercher canlynol, 10fed o Dachwedd am 19:30yh – ac mae croeso i deulu a ffrindiau ddod i’ch clywed yn perfformio am 20:30yh y noson hon. Bydd ymarfer ychwanegol yn cael ei ail-drefnu i chi, manylion i ddilyn.
Unrhyw cwestiynau, galwch ffonio'r tîm cynhyrchu ar 02920 590 117.
Diolch,
Lowri

Ar Nos Sadwrn 30ain o Hydref rydych chi wedi cael gwahoddiad i ganu yn Noson Stifyn Parri yn y Stiwt. Noson Caws a Gwin i gasglu arian i elusen Hospis Ty’r Eos gyda Beti George yn gofyn y cwestiynnau.
Mae croeso mawr i chi wahodd teulu a ffrindiau i’ch cefnogi chi ar y noson yma, mae tocynnau ar werth am £7.00 naill ar y drws ar y noson neu wrth galw’r Stiwt o flaen llaw ar 01978 844 053. Mi fydd y drysau’n agor am 19:00yh a’r Noson yn dechrau am 19:30yh.
Fel aelodau o’r côr - fydd angen i chi cyrraedd y Stiwt am ymarfer am 18:00yh. Gwnewch yn siwr bod chi’n gwisgo mewn du, trowsus/sgert, crys/siwmper a gyda rhywbeth melyn – tei, clustdlysau, mwclis, sgarff a.y.y.b. Mi fydd yna rhubanau melyn ar gael i’w prynu gan yr elusen hefyd os ydych chi eisiau am £1 yr un.
Mi fyddwch chi’n eistedd yn y Neuadd i wylio’r Noson ac wedyn yn canu ar ol y cyfweliad gyda Stifyn Parri yn eich arwain chi. Rydyn ni’n gobeithio bydd y Noson wedi gorffen am tua 21:30yh.
Cofiwch hefyd mae’n bosib i deulu a ffrindiau prynu tocynnau ar gyfer y gyngerdd fawr, Nos Sadwrn 27ain o Dachwedd gan Neuadd Dewi Sant yn uniongyrchol - dim ond nifer gyfyngedig o docynnau sydd ar gael, felly gwnewch yn siŵr bod chi’n prynu nhw’n ddigon buan. Mae tocynnau ar gael o’r swyddfa docynnau ar 02920 878 444 neu ar-lein www.stdavidshallcardiff.co.uk. Pris y tocynnau yw £10.00 i oedolion, £5.00 i blant a consesiynau.
Nodyn olaf i chi hefyd - a byddwch chi mor garedig i adael i ni wybod, os dydych chi ddim wedi yn barod, a fyddwch chi’n mynychu’r ymarfer llawn i’r 4 côr yn y canolbarth ar Ddydd Sul 21ain o Dachwedd neu beidio.
Os oes unrhyw gwestiynau mae croeso i chi galw'r tîm cynhyrchu ar 02920 590 117.
Tîm Cynhyrchu Codi Canu

Ar Nos Iau 4ydd o Dachwedd mi fydd noson i deulu a ffrindiau yn dechrau am 20:30yh yn Festri Capel Tabernacl, Treforys.
Mi fydd ymarfer yn Capel Tabernacl, Treforys yn dechrau am 19:30yh fel arfer, wedyn fydd croeso i deulu a ffrindiau cyrraedd am 20:30yh i wrando arnoch chi’n rhoi perfformiad byr iddyn nhw cyn noson y gyngerdd fawr am ddim.
Cofiwch hefyd mae’n bosib i deulu a ffrindiau prynu tocynnau ar gyfer y gyngerdd fawr, Nos Sadwrn 27ain o Dachwedd gan Neuadd Dewi Sant yn uniongyrchol - dim ond nifer gyfyngedig o docynnau sydd ar gael, felly gwnewch yn siŵr bod chi’n prynu nhw’n ddigon buan. Mae tocynnau ar gael o’r swyddfa docynnau ar 02920 878 444 neu ar-lein www.stdavidshallcardiff.co.uk. Pris y tocynnau yw £10.00 i oedolion, £5.00 i blant a consesiynau.
Nodyn olaf i chi hefyd - a byddwch chi mor garedig i adael i ni wybod, os dydych chi ddim wedi yn barod, a fyddwch chi’n mynychu’r ymarfer llawn i’r 4 côr yn y canolbarth ar Ddydd Sul 21ain o Dachwedd neu beidio.
Os oes unrhyw gwestiynau mae croeso i chi galw'r tîm cynhyrchu ar 02920 590 117.
Tîm Cynhyrchu Codi Canu

Ar Nos Fawrth 2ail o Dachwedd mi fydd noson i deulu a ffrindiau yn dechrau am 20:30yh yn Clwb NUM Cambrian, Tonypandy.
Mi fydd ymarfer yn Clwb NUM Cambrian, Tonypandy yn dechrau am 19:30yh fel arfer, wedyn fydd croeso i deulu a ffrindiau cyrraedd am 20:30yh i wrando arnoch chi’n rhoi perfformiad byr iddyn nhw cyn noson y gyngerdd fawr am ddim.
Cofiwch hefyd mae’n bosib i deulu a ffrindiau prynu tocynnau ar gyfer y gyngerdd fawr, Nos Sadwrn 27ain o Dachwedd gan Neuadd Dewi Sant yn uniongyrchol - dim ond nifer gyfyngedig o docynnau sydd ar gael, felly gwnewch yn siŵr bod chi’n prynu nhw’n ddigon buan. Mae tocynnau ar gael o’r swyddfa docynnau ar 02920 878 444 neu ar-lein www.stdavidshallcardiff.co.uk . Pris y tocynnau yw £10.00 i oedolion, £5.00 i blant a consesiynau. Nodyn olaf i chi hefyd - a byddwch chi mor garedig i adael i ni wybod, os dydych chi ddim wedi yn barod, a fyddwch chi’n mynychu’r ymarfer llawn i’r 4 côr yn y canolbarth ar Ddydd Sul 21ain o Dachwedd neu beidio.
Os oes unrhyw gwestiynau mae croeso i chi galw'r tîm cynhyrchu ar 02920 590 117.
Tîm Cynhyrchu Codi Canu

Mae ymarfer heno wedi cael ei ganslo (26 Hydref). Mi fydd ymarferion fel arfer Dydd Mawrth nesaf, 2il o Dachwedd am 19:30yh – ond mae croeso i deulu a ffrindiau ddod i’ch clywed yn perfformio am 20:30yh ar y noson. Mi fydd ymarfer ychwanegol hefyd ar Dydd Iau 4ydd o Dachwedd.
Unrhyw gwestiynau, ffoniwch y tîm cynhyrchu ar 02920 590 117.
Tîm Cynhyrchu Codi Canu

Cyfarchion! Mi fyddwch yn cymryd rhan mewn sialens canu ar Nos Wener y 22ain o Hydref yn Eisteddfod Gadeiriol Felindre.
Mi fydd disgwyl i holl aelodau’r côr fod yn bresennol os yw hynny yn bosib. Mi fyddwch yn perfformio yn Eisteddfod Felindre ac yn canu ar ôl y Gadeirio ac yn cael eich beirniadaeth gan Euros Rhys Evans.
Mi fydd Côr Tawe yn canu 2 darn, naillai 'Blaenwern', 'Y Cwm', ' Lacrymosa ‘ neu ‘Tangnefeddwyr'.
Mi fyddwn yn talu'r gost mynediad ar eich rhan, ond mi fydd yn rhaid i chi gyflwyno cerdyn Boomerang, a fydd yn cael eu dosbarthu ar y bws, er mwyn i chi gael mynd i fewn.
Yr hyn fydd yn rhaid i chi ei wisgo/ddod gyda chi:
Mi fydd gofyn i chi wisgo dillad du gydag un darn Glas (tei, tei-bô, cadwan, clust dlysau, sgarff a.y.b.)
Diodydd
Snac (os oes angen)
Copi o’r gerddoriaeth ar gyfer y darnau a nodir uchod yn eich ffeiliau cerddoriaeth.
Nodyn: Gwnewch yn siŵr eich bod yn cael rhywbeth i’w fwyta cyn cyrraedd yr Eisteddfod. Nid oes sicrwydd y bydd yna fwyd a diod ar gael yn yr Eisteddfod.
Amserlen:
18:00yh Cyrraedd Capel Tabernacl am ymarfer cyn mynd
18:50yh Dechreuwch llenwi’r bws
19:00yh Cychwyn ar y bws
19:20yh Cyrraedd Neuadd tref Felindre, SA5 7NA – “Welfare Hall”
19:30yh Mynd syth i’r neuadd a cymryd eich seddau
*20:00yh -20.30yh Cadeirio’r Eisteddfod
*20:30yh Côr Tawe yn perfformio
21:30yh Teithio yn ôl i Capel Tabernacl
21:45yh Cyrraedd Capel Tabernacl
*Gall yr amserlen yma newid oherwydd newidiadau yn amserlen yr Eisteddfod.
Mi fuasem wrth ein bodd pe bai pawb yn gallu bod yn rhan o’r sialens yma.
Os gwelwch yn dda a allwch gadarnhau cyn gynted o bod modd gyda Inge Hanson drwy e-bost inge.hanson@boomerang.co.uk os ydych am fod yn rhan o’r sialens a’i pheidio. Hefyd, os gallwch adael i Inge wybod os ydych yn bwriadu gwneud trefniadau eich hun i deithio i’r Eisteddfod, mi fuasem yn hynod ddiolchgar.
Edrychaf ymlaen at glywed gannoch! Rwyf yn deal eich bod wedi nodi eich bwriad i ddod i’r Eisteddfod ai pheidio ar y gofrestr ond mi fydd hyn yn ein galluogi i gael rhestr fwy diweddar.
Yn gywir,
Inge
07808 965892
02920 590138

Llongyfarchiadau enfawr - i gorau Rhondda ac Ogwen am gystadlu yn yr Eisteddfodau lleol dros y penwythnos.
Roedd y ddau gôr wedi rhoi perfformiadau gwych i’r gynulleidfa ac mae’r ymateb mae’r corau wedi cael ar ôl y cystadlaethau wedi bod yn ffantastig.
Rydyn ni’n gobeithio bod chi wedi mwynhau'r profiad a bod o wedi rhoi hyder i chi er mwyn y perfformiad nesaf.
Tîm Cynhyrchu Codi Canu

Aelodau Côr Ogwen
Cyfarchion! Mi fyddwch yn cymryd rhan mewn sialens canu ar Nos Sadwrn y 16eg o Hydref yn Eisteddfod Bro Aled Llansannan.
Mi fydd disgwyl i holl aelodau’r côr fod yn bresennol os yw hynny yn bosibl. Mi fyddwch yn cystadlu yn Eisteddfod Bro Aled, Llansannan yn erbyn Côr y Rhos a chorau eraill lleol a fydd hefyd yn cymryd rhan.
Mi fydd Côr Ogwen yn canu tri darn, sef 'Prysgol', 'Hafan Gobaith', a 'Tangnefeddwyr', gyda Neil Williams yn arwain.
Mi fyddwn yn talu'r gost mynediad ar eich rhan, ond mi fydd yn rhaid i chi gyflwyno cerdyn Boomerang, a fydd yn cael eu dosbarthu ar y bws, er mwyn i chi gael mynd i mewn.
Yr hyn fydd yn rhaid i chi ei wisgo/ddod gyda chi:
• Mi fydd gofyn i chi wisgo dillad du gydag un darn gwyrdd (tei, tei-bô, cadwan, clust dlysau, sgarff a.y.b.)
• Diodydd
• Snac (os oes angen)
• Copi o’r gerddoriaeth ar gyfer y darnau a nodir uchod yn eich ffeiliau cerddoriaeth.
Nodyn: Gwnewch yn siŵr eich bod yn cael rhywbeth i’w fwyta cyn cyrraedd yr Eisteddfod. Nid oes sicrwydd y bydd yna fwyd a diod ar gael yn yr Eisteddfod.
Amserlen:
• 18:30yh Cyrraedd Ysgol Dyffryn Ogwen, Ffordd Coetmor, Bethesda, Gwynedd, LL57 3NN
• 18:45yh Cychwyn ar y bws
• 19:45yh Cyrraedd Canolfan Addysg Bro Aled, Llansannan
• *20:30yh neu 21:00yh Cystadlu ar lwyfan yr Eisteddfod
• *22:30yh Cyhoeddi enillwyr yr Eisteddfod
• 23:00yh Teithio yn ôl i Ysgol Dyffryn Ogwen ar y bws
• 00:00yb Cyrraedd Ysgol Dyffryn Ogwen
*Gall yr amserlen yma newid oherwydd newidiadau yn amserlen yr Eisteddfod.
Mi fuasem wrth ein bodd pe bai pawb yn gallu bod yn rhan o’r sialens yma.
Os gwelwch yn dda a allwch gadarnhau cyn gynted o bod modd gyda Inge Hanson drwy e-bost inge.hanson@boomerang.co.uk os ydych am fod yn rhan o’r sialens a’i pheidio. Hefyd, os gallwch adael i Inge wybod os ydych yn bwriadu gwneud trefniadau eich hun i deithio i’r Eisteddfod, mi fuasem yn hynod ddiolchgar.
Edrychaf ymlaen at glywed gannoch! Rwyf yn deall eich bod wedi nodi eich bwriad i ddod i’r Eisteddfod ai pheidio ar y gofrestr ond mi fydd hyn yn ein galluogi i gael rhestr fwy diweddar.
Yn gywir,
Inge
07808 965892
02920 590138

Codi Canu - Y Finale
Neuadd Dewi Sant, Caerdydd
27 Tachwedd, 2010
19:30yh
Swyddfa Docynnau: 02920 878 444
www.stdavidshall.cardiff.co.uk
Prynwch eich tocynnau nawr ar gyfer y noson fawr! Cefnogwch eich rhanbarth!

Cyfarchion! Mi fyddwch yn cymryd rhan mewn sialens canu ar Nos Wener y 15eg o Hydref yn Eisteddfod y Cymoedd yn Ystrad Mynach.
Mi fydd disgwyl i holl aelodau’r côr fod yn bresennol os yw hynny yn bosib. Mi fyddwch yn cystadlu yn Eisteddfod y Cymoedd yn Ystrad Mynach yn erbyn Côr Tawe a chorau eraill lleol a fydd hefyd yn cymryd rhan.
Mi fydd Côr Rhondda yn canu dau neu tri darn, naillai 'Cwm Rhondda', 'Ysbryd y Nos, neu ‘Tangnefeddwyr'.
Mi fyddwn yn talu'r gost mynediad ar eich rhan, ond mi fydd yn rhaid i chi gyflwyno cerdyn Boomerang, a fydd yn cael eu dosbarthu ar y bws, er mwyn i chi gael mynd i fewn.
Yr hyn fydd yn rhaid i chi ei wisgo/ddod gyda chi:
· Mi fydd gofyn i chi wisgo dillad du gydag un darn Coch (tei, tei-bô, cadwan, clust dlysau, sgarff a.y.b.)
· Diodydd
· Snac (os oes angen)
· Copi o’r gerddoriaeth ar gyfer y darnau a nodir uchod yn eich ffeiliau cerddoriaeth.
Nodyn: Gwnewch yn siŵr eich bod yn cael rhywbeth i’w fwyta cyn cyrraedd yr Eisteddfod. Nid oes sicrwydd y bydd yna fwyd a diod ar gael yn yr Eisteddfod.
Amserlen:
7:00yh Cyrraedd Clwb NUM Cambrian, Ffordd Llwynypia, Tonypandy, CF40 2ES
7:15yh Cychwyn ar y bws
8:15yh Cyrraedd Ysgol Lewis i Ferched, Ystrad Mynach - ar ol i’r corau cyrraedd fydd yna lle iddyn nhw aros yn y neuadd, ac hefyd ystafell os mae eisiau ymarfer.
*9:30yh - 10.30yh Cystadlu ar lwyfan yr Eisteddfod - mae’r amser yn cael ei penderfynnu ar y noson
*11:00yh Cyhoeddi enillwyr yr Eisteddfod
11:15yh Teithio yn ôl i’r Clwb NUM Cambrian
12:15yh Cyrraedd Clwb NUM Cambrian
*Gall yr amserlen yma newid oherwydd newidiadau yn amserlen yr Eisteddfod.
Mi fuasem wrth ein bodd pe bai pawb yn gallu bod yn rhan o’r sialens yma.
Os gwelwch yn dda a allwch gadarnhau cyn gynted o bod modd gyda Inge Hanson drwy e-bost inge.hanson@boomerang.co.uk os ydych am fod yn rhan o’r sialens a’i pheidio. Hefyd, os gallwch adael i Inge wybod os ydych yn bwriadu gwneud trefniadau eich hun i deithio i’r Eisteddfod, mi fuasem yn hynod ddiolchgar.
Edrychaf ymlaen at glywed gannoch! Rwyf yn deall eich bod wedi nodi eich bwriad i ddod i’r Eisteddfod ai pheidio ar y gofrestr ond mi fydd hyn yn ein galluogi i gael rhestr fwy diweddar.
Yn gywir,
Inge
07808 965892
02920 590138

Cyfarchion! Mi fyddwch yn cymryd rhan mewn sialens canu ar Nos Wener y 15eg o Hydref yn Eisteddfod y Cymoedd yn Ystrad Mynach.
Mi fydd disgwyl i holl aelodau’r côr fod yn bresennol os yw hynny yn bosib. Mi fyddwch yn cystadlu yn Eisteddfod y Cymoedd yn Ystrad Mynach yn erbyn Côr y Rhondda a chorau eraill lleol a fydd hefyd yn cymryd rhan.
Mi fydd Côr Tawe yn canu 2 neu 3 darn, naillai 'Blaenwern', 'Y Cwm', ' Lacrymosa ‘ neu ‘Tangnefeddwyr'.
Mi fyddwn yn talu'r gost mynediad ar eich rhan, ond mi fydd yn rhaid i chi gyflwyno cerdyn Boomerang, a fydd yn cael eu dosbarthu ar y bws, er mwyn i chi gael mynd i fewn.
Yr hyn fydd yn rhaid i chi ei wisgo/ddod gyda chi:
· Mi fydd gofyn i chi wisgo dillad du gydag un darn Glas (tei, tei-bô, cadwan, clust dlysau, sgarff a.y.b.)
· Diodydd
· Snac (os oes angen)
· Copi o’r gerddoriaeth ar gyfer y darnau a nodir uchod yn eich ffeiliau cerddoriaeth.
Nodyn: Gwnewch yn siŵr eich bod yn cael rhywbeth i’w fwyta cyn cyrraedd yr Eisteddfod. Nid oes sicrwydd y bydd yna fwyd a diod ar gael yn yr Eisteddfod.
Amserlen:
7:00yh Cyrraedd Capel Tabernacl, Woodfield Street and Crown Street, Treforys
7:15yh Cychwyn ar y bws
8:15yh Cyrraedd Ysgol Lewis i Ferched, Ystrad Mynach - ar ol i’r corau cyrraedd fydd yna lle iddyn nhw aros yn y neuadd, ac hefyd ystafell os mae eisiau ymarfer
*9:30yh - 10.30yh Cystadlu ar lwyfan yr Eisteddfod- mae’r amser yn cael ei penderfynnu ar y noson
*11:00yh Cyhoeddi enillwyr yr Eisteddfod
11:15yh Teithio yn ôl i Capel Tabernacl
12:15yh Cyrraedd Capel Tabernacl
*Gall yr amserlen yma newid oherwydd newidiadau yn amserlen yr Eisteddfod.
Mi fuasem wrth ein bodd pe bai pawb yn gallu bod yn rhan o’r sialens yma.
Os gwelwch yn dda a allwch gadarnhau cyn gynted o bod modd gyda Inge Hanson drwy e-bost inge.hanson@boomerang.co.uk os ydych am fod yn rhan o’r sialens a’i pheidio. Hefyd, os gallwch adael i Inge wybod os ydych yn bwriadu gwneud trefniadau eich hun i deithio i’r Eisteddfod, mi fuasem yn hynod ddiolchgar.
Edrychaf ymlaen at glywed gannoch! Rwyf yn deal eich bod wedi nodi eich bwriad i ddod i’r Eisteddfod ai pheidio ar y gofrestr ond mi fydd hyn yn ein galluogi i gael rhestr fwy diweddar.
Yn gywir,
Inge
07808 965892
02920 590138

Aelodau Côr Cwm Rhondda,
Fel gwnaethom ni drafod heno yn ystod eich ymarfer, fe fyddwch chi’n cymryd rhan yn eich sialens gyntaf, Dydd Sadwrn 9fed Hydref.
Bydd disgwyl i bob aelod o'r côr fynychu os yn bosibl. Mi fydd eich sialens yn seiliedig a’r hanes, a hanes cherddoriaeth canu corawl yn eich ardal; sef Parc Treftadaeth Cwm Rhondda, Trehafod.
Cychwynnodd hanes corawl y Rhondda yn fuan wedi i 38 wagan o lo stem orau’r byd weithio ffordd o Bwll Glo’r Bute, yn Nhreherbert ym 1855. Roedd côr i bob pwll a phob côr ynghlwm a chwmni glo. Er cof am y cysylltiadau hanesyddol yma rhwng canu corawl a’r glowyr, byddwn yn eich tywys i berfformio wrth wraidd y traddodiad tan ddaear.
Rydyn ni’n gobeithio bydd yr ymarfer yn fordd hwylus i chi weithio gyda’ch cyd-aelodau mewn sefyllfa sy’n wahanol i’ch ymarferion wythnosol. Mi fyddwch wedi cynhesu eich lleisiau yn y Parc Treftadaeth cyn mynd dan ddaear ac rydyn ni’n gobeithio y byddwch chi’n barod i ganu allan ar gyfer eich sialens.
Mi fydd bysiau wedi eu trefnu ar eich cyfer i’ch casglu, ac i fynd a chi yn nôl i’r Clwb NUM Cambrian. Mae’n bwysig iawn eich bod chi’n rhoi gwybod p’un ai ydych chi’n dod neu beidio fel bod digon o le ar y bysiau i bawb.
Pethau i ddod gyda chi:
· Esgidiau cerdded addas
· Dillad cynnes, cyfforddus - mi fyddwch chi tu allan/dan ddaear
· Côt i arbed y glaw (rhag ofn iddi fwrw)
· Potel o ddŵr (rhag ofn i chi godi syched!)
· Copi o’ch cerddoriaeth
Amserlen:
08:30yb: Y bws i adael Clwb NUM y Cambrian a’ch tywys i Barc Treftadaeth Cwm Rhondda
09:00yb: Cyrraedd Parc Treftadaeth Cwm Rhondda
09:00-12:30yp: Rhoi help llaw i’r parc, cynhesu eich lleisau ac yna eich perfformiad!!
12:30yp: Gorffen ffilmio, a bydd y bws yn dychwelyd i’r clwb NUM
13:00yp Cyrraedd yn ôl i’r clwb
Carem i bawb gymryd rhan yn y sialens yma.
Oes modd i chi gadarnhau cyn gynted â phosibl efo Angharad heno os byddwch yn mynychu ai peidio; neu drwy e-bostio lowri.owen@boomerang.co.uk. Edrychaf ymlaen at glywed gennych cyn gynted â phosib!
Pob hwyl,
Lowri
02920 590 117
*Rhif i gysylltu ar y diwrnod yn unig os oes unrhyw broblemau: 07734 412342

Croeso'n ôl i Codi Canu! Gobeithio i chi gyd fwynhau gwyliau’r haf a'ch bod yn ysu i ail gydio yn y canu. Edrychwn ymlaen at eich gweld yn yr ymarferion sydd wedi ail-ddechrau ers wythnos gyntaf mis Medi. Mae amserlen y tymor i'w weld isod. Rydyn ni wedi cynllunio sialensiau ar gyfer pob côr fydd nid yn unig yn profi eich dawn canu ond yn herio eich medrusrwydd corfforol felly byddwch barod am dipyn o sbri!
RHOS A’R CYLCH
Y Stiwt, Rhosllannerchrugog - 19:30
Medi – 3, 6, 13
Hydref – 1, 4, 15, 18
Tachwedd – 5, 8, 15, 22
CWM RHONDDA
Clwb Cambrian NUM, Tonypandy - 19:30
Medi – 7, 21, 28
Hydref – 5, 12, 19, 26
Tachwedd – 2, 9, 16, 23
OGWEN A’R CYLCH
Dyffryn Ogwen, Ysgol Dyffryn Ogwen - 19:30
Medi – 8, 15, 29
Hydref – 6, 13, 20, 27
Tachwedd – 3, 10, 17, 24
CWM TAWE
Capel y Tabernacl, Treforys - 19:30
Medi – 9, 16, 23, 30
Hydref – 7, 14, 21, 28
Tachwedd – 4, 11, 18, 25
CYNGERDD 27/11/10 – Neuadd Dewi Sant, Caerdydd
Am ragor o wybodaeth cysylltwch a Lowri Owen, Boomerang ar 029 20 590 117 neu drwy e-bost at lowri.owen@boomerang.co.uk.
© 2010 S4C
O Gymru / Made in Wales