Yn enedigol o Fryste, symudodd teulu Neil yn ôl i Gymru pan oedd e'n 7 oed. Yn Nhregarth wnaethon nhw ymgartrefu oherwydd gwaith ei dad yn y BBC ym Mangor.
Mae cerddoriaeth wastad wedi bod yn rhan fawr o fywyd Neil. Roedd e'n adnabod caneuon ‘Sound of Music’ a ‘West Side Story’ yn 3 oed, ac roedd yn cael ei ddewis i ganu ar ei ben ei hun yn aml yn yr ysgol ac yng nghapel Tabernacl, Bethesda, lle’r oedd ei nain yn chwarae'r organ. Llais soprano clir ac uchel oedd ganddo'n fachgen, ond mae’n anodd gan Neil gredu: “Mae o fwy fatha ffoghorn erbyn hyn,” meddai.
Mae’n cofio'r mwynhad a'r cyffro yr oedd yn ei gael o ganu mewn côr, yn enwedig cyngherddau Nadolig Ysgol Gynradd Bodfeurig, lle roedden nhw’n blastio carolau allan nerth eu pennau. Wedyn yn Ysgol Dyffryn Ogwen roedd yn canu mewn partïon bechgyn a chorau cymysg, ac yn cystadlu mewn eisteddfodau lleol a chenedlaethol. Bellach mae ei ddyddiau corawl wedi mynd heibio, ond mae wastad wedi difaru peidio cael amser i fod mewn côr meibion (y Penrhyn, wrth gwrs!)
“Ac allan o'r blw dyma'r cynnig a'r sialens i ddysgu arwain Côr Dyffryn Ogwen ar gyfer Codi Canu! Braint ac anrhydedd a chyfle unigryw i ddysgu a phrofi miwsig mewn ffordd hollol wahanol i be dwi'n wbod, allan o'r ‘comfort zone’ ac ‘in at the deep end’! Fedra i'm disgwyl!”
© 2010 S4C
O Gymru / Made in Wales