Neidio at y cynnwys

S4C

Codi Canu – Y Rhaglen Fyw - Rheolau Pleidleisio

Darlledir rhaglen olaf cyfres bresennol Codi Canu yn Neuadd Dewi Sant, Caerdydd ar 27 Tachwedd 2010. Bydd y pedwar côr yn cystadlu am dlws Codi Canu 2010. Bydd y côr buddugol yn cael ei ddewis trwy bleidlais gan
banel o feirniaid yn y Neuadd (Owain Arwel Hughes, Gwawr Owen a Rhys Meirion) a phleidlais ffon.
Darlledir y rhaglenni ar S4C - y gyntaf rhwng 2000 a 2100 a’r ail raglen rhwng 2130 a 2215.
Bydd y pedwar côr yn perfformio dau ddarn yn ystod y rhaglen gyntaf.
Perfformiad gan y corau unedig a gawn yn yr ail raglen - cyn cyhoeddi'r enillydd.

Y BLEIDLAIS

Bydd y panel beirniaid yn bwrw eu pleidlais ar ôl i’r pedwar côr berfformio ac fe gyhoeddir canlyniad eu pleidlais yn gynnar yn ystod yr ail raglen.
Cyhoeddir ar ddiwedd y rhaglen gyntaf bod y llinellau ffon yn agor i’r cyhoedd fwrw eu pleidlais.
Bydd y llinellau ffon yn parhau ar agor nes bydd y cyflwynydd yn cyhoeddi cau'r llinellau yn gynnar yn ystod yr ail raglen.

SGORIO

Mae’r system sgorio yn gyfuniad o bleidlais beirniaid a gwylwyr. Nid yw canlyniad pleidlais y beirniaid yn sicrhau buddugoliaeth i unrhyw un o’r corau. Mae’n bosibl i bleidlais y gwylwyr ddylanwadu ar y canlyniad.

Bydd y beirniaid yn rhoi marciau i’r pedwar côr – 10 pwynt i’r 1af, 5 pwynt i’r 2il, 3 pwynt i’r 3ydd a 2 bwynt i’r 4ydd.
Bydd angen i’r beirniaid a’r gwylwyr ystyried y canlynol cyn bwrw eu pleidlais:

1. Perfformiad y Côr
2. Perfformiad yr arweinydd
3. Y perfformiad yn ei gyfanrwydd.

Bydd cyfanswm pwyntiau'r pedwar côr yn cael eu troi mewn i ganran.
Bydd Cwmni Pawb yng ngofal y bleidlais ffon ac yn darparu canlyniad y bleidlais ffon ar ffurf canran.
Cyfunir y bleidlais ffon a pleidlais y beirniaid i gael cyfanswm canran.
Y côr gyda’r canran uchaf fydd yn fuddugol.

Os bydd dau gôr neu fwy yn gyfartal, bydd Owain Arwel Hughes, cadeirydd y panel beirniaid yn dewis y côr buddugol.

Goruchwylir y broses bleidleisio gan archwiliwraig allanol - Prydwen Elfed-Owens.

PLEIDLEISIO

Pleidleisio trwy alwad ffôn yn unig. Cyhoeddir y rhifau ffôn ar y wefan ar ddydd Gwener 26/11/10 ond cofiwch na fydd modd i chi bleidleisio nes bydd y cyflwynydd yn cyhoeddi agor y llinellau ffon ar ddiwedd y rhaglen gyntaf ar ôl i’r pedwar côr berfformio . Peidiwch â ffonio cyn i’r llinellau agor gan na fydd eich pleidlais yn cyfri ac mae’n bosib y codir tal am yr alwad.

Cost pob pleidlais fydd 15 ceiniog am bob galwad o linell BT. Gall cyflenwyr eraill amrywio mewn pris. Gall cost galwadau o ffon symudol fod yn sylweddol uwch.

Y CANLYNIAD

Bydd y llinellau ffon yn cau am oddeutu 2200 yn dilyn cyhoeddiad gan y cyflwynydd. Bydd Cwmni Pawb, darparwr y gwasanaeth pleidleisiau ffon yn prosesu’r pleidleisiau ac yn darparu’r canlyniad i’r Cwmni Cynhyrchu ar ffurf canranau. Bydd y Cwmni Cynhyrchu yn prosesu pleidlais y gwylwyr a phleidlais y beirniaid a chyfuno’r ddau ganlyniad i greu un canran.
Cyhoeddir y canlyniad o’r llwyfan ar ddiwedd yr ail raglen.
Cyhoeddir y canlyniad ar wefan Codi Canu fore Llun 29/11/10

TELERAU AC AMODAU

Mae’n ofynol i unrhyw un sy’n pleidleisio ofyn caniatad y person sy’n talu’r bil ffon a dylai unrhywun o dan 12 oed ofyn caniatad riant neu warchodwr cyn pleidleisio. Byddwch yn ofalus wrth ddeilalu pob rhif. Ni allwch bleidleisio ar y we, trwy neges destun na trwy gyfrwng botwm coch. Pleidlais ffon yn unig fydd ar gael.

Mae Boomerang yn cadw’r hawl i ddiarddel unrhyw bleidlais os oes amheuaeth o dwyllo neu os credir bod bwriad o wyro y canlyniad.

Gall amryw sefyllfa godi cyn neu yn ystod y rhaglen, fel ag mewn unryw raglen deledu fyw. Mae cynlluniau wrth gefn os bydd unrhyw arweinydd yn tynnu allan trwy salwch neu unrhyw sefyllfa tu hwnt i reolaeth y Cwmni Cynhyrchu. Gall y Cwmni Cynhyrchu orfod ohurio, newid neu ddileu y pleidleisio ar unrhyw amser. Mewn achos o ddileu y bleidlais ffon yn gyfangwbl, bydd canlyniad pleidlais y beirniaid yn derfynnol.

Ar gyfer dilysu unrhyw gais am ad-daliad (os cynigir) neu edrych mewn i unrhyw anghysondeb pleidleisio gall y Cwmni Cynhyrchu ofyn i’r darparwr ddatgelu rhif y ffon a ddefnyddioch i bleidleisio. Noder y bydd hyn yn digwydd os ydych wedi dewis i beidio datgelu eich rhif wrth bleidleisio. Os nad ydych yn cytuno a hyn, ni ddylech bleidleisio.

Os bydd angen archwiliad, bydd y Cwmni Cynhyrchu yn defnyddio’r rhifau ffon yn unig at bwrpas talu adaliadau neu ymchwilio anghysonderau pleidleisio ac ni fyddant yn cyhoeddu neu ddarparu’r rhifau i unrhyw un heb ganiatad, ag eithrio i orfodi’r termau hyn.

Ni all y Cwmni Cynhyrchu nag unrhyw un o’i is-gontractwyr dderbyn unrhyw gyfrifoldeb am
1. unrhyw broblem neu ddiffyg mewn darpariaeth ffon neu system sy’n arwain at golli pleidlais neu bod pleidlais ddim yn cael ei chofrestru.
2. unrhyw dalent, gan gynnwys yr arweinyddion, cyflwynwyr neu feirniad yn gadael y rhaglen am unrhyw reswm.

Mae’r pleidleisio yn y rhaglen hon yn unol a chanllawiau cystadleuaeth S4C.

Noder os ydych yn gysylltiedig yn uniongyrchol gyda’r cynhyrchiad neu gyda’r darparwr gwasanaeth pleidlais ffon, nid ydych yn gymwys i bleidleisio.

Os oes gennych unrhyw gwyn, gallwch gysylltu a Gwifren Gwylwyr, S4C ar 0870 600 4141 (ni ddylai galwad gostio mwy na 6c y funud).

© 2010 S4C
O Gymru / Made in Wales