Neidio at y cynnwys

S4C

Newyddion Diweddaraf - 24 Tachwedd - Côr Cwm Rhondda

Finalé Codi Canu – YN FYW!! – Aelodau Côr Cwm Rhondda

Mae’r sioe fyw a’r gystadleuaeth rhwng 4 rhanbarth Codi Canu yn cael ei chynnal yn Neuadd Dewi Sant ar ddydd Sadwrn y 27ain o Dachwedd. Gobeithio y cewch chi noson arbennig – diolch yn fawr am fod yn rhan o’r gyfres!

Edrychwn ymlaen i groesawu chi gyd ddydd Sadwrn – MAE POB LLAIS YN CYFRI!

Mae’r bysiau wedi eu trefnu i’ch tywys i’r gyngerdd ar ddydd Sadwrn y 27ain – ac i’ch dychwelyd i Clwb NUM Cambrian Tonypandy yr un noson.

Byddwn yn darparu swper i chi ar y Nos Sadwrn a bydd tê, coffi a dwr ar gael trwy gydol y dydd. Rydym yn eich argymell i ddod a phecyn bwyd a diod fel cinio

Beth sydd angen i chi ddod?:

Potel diod/dwr a phecyn bwyd (byrbrydiau os y hoffwch)
Eich cerddoriaeth
Dewch a’ch gwisg ar gyfer y gyngerdd, ond PEIDIWCH a theithio ynddo. Dylai eich gwisg fod yn bennaf yn ddu, ond gyda splash o coch (tei, dici-bô, clustlysau, perlau, scarff ayyb)

Amserlen:

11:15: Cyfarfod ym Maes Parcio Clwb NUM Cambrian, Tonypandy, Llwynypia Road, CF40 2ES.

11:30: Llwytho’r bws, ac ymadael Clwb NUM Cambrian, mae’r bws yn mynd a chi yn syth i Neuadd Dewi Sant.

12:30: Cyrraedd Neuadd Dewi Sant

Os ydych yn gwneud eich trefniadau teithio eich hun, mae’n rhaid i chi gyrraedd Neuadd Dewi Sant erbyn 12.30yh ar gyfer eich ymarfer. PEIDIWCH a bod yn hwyr, neu bydd eich côr yn colli eu slot ymarfer.

13:00: Ymarfer gyda Donna Edwards a Delyth Medi.

13:30-15:00: Amser bwyta cinio a chael ymarfer arall cefn llwyfan os oes angen.

15:00: Ymarfer y Côr Mawr gyda Owain Arwel Hughes a’r gerddorfa.

17:00: Swper (Bwyd Poeth, 2 ddewis gwahanol a 2 opsiwn llysieuol. Os oes unrhyw anghenion eraill bydd gofyn i chi drefnu eich bwyd eich hun). Bydd teledu yn yr ystafell fwyta i chi gael gwylio Cymru v Seland Newydd

18:00: Newid i’ch gwisg (du a coch). Cewch wybod lle mae’r ystafell newid ar y dydd.

19:00: Paratoi cefn llwyfan.

19:30: Y gynulleidfa’n cyrraedd.

20:00: Cyngerdd Byw.

22:15: Diwedd y gyngerdd.

23:00: Bydd y bws yn eich casglu ac yn mynd a chi yn nôl i Clwb NUM Cambrian, Bydd y gyrrwr yn gadael i chi wybod o ble y byddwch yn cael eich casglu. (Neu wrth gwrs, mae croeso i chi fwynhau’r noson a threfnu eich trafnidiaeth eich hun yn ôl adre ar ôl 23:00yh).

Cysylltwch ac Inge ar y rhifau isod os oes unrhyw gwestiynnau pellach – neu ar e-bost: inge.hanson@boomerang.co.uk

Edrychwn ymlaen i’ch gweld ddydd Sadwrn!

Cofion,

Inge Hanson
02920 590 138/07808 965 892* (*unrhyw broblem ar y dydd – defnyddiwch y rhif symudol)

Newyddion Diweddaraf - 18 Tachwedd - Côr Cwm Rhondda

YR YMARFER OLAF

Aelodau Côr Cwm Rhondda:

Mae’r ymarfer wythnos nesaf yn dechrau am 18:30yh – 23ain o Dachwedd. Mae Delyth a Donna yn gofyn bod PAWB YN MYNYCHU yr ymarfer olaf yma.

Diolch!

Newyddion Diweddaraf - 27 Hydref - Côr Cwm Rhondda

GWAHODDIAD I DEULU A FFRINDIAU: 2 Tachwedd 2010

Ar Nos Fawrth 2ail o Dachwedd mi fydd noson i deulu a ffrindiau yn dechrau am 20:30yh yn Clwb NUM Cambrian, Tonypandy.

Mi fydd ymarfer yn Clwb NUM Cambrian, Tonypandy yn dechrau am 19:30yh fel arfer, wedyn fydd croeso i deulu a ffrindiau cyrraedd am 20:30yh i wrando arnoch chi’n rhoi perfformiad byr iddyn nhw cyn noson y gyngerdd fawr am ddim.

Cofiwch hefyd mae’n bosib i deulu a ffrindiau gael tocynnau ar gyfer y gyngerdd fawr, Nos Sadwrn 27ain o Dachwedd gan Neuadd Dewi Sant yn uniongyrchol - dim ond nifer gyfyngedig o docynnau sydd ar gael, felly gwnewch yn siŵr bod chi’n archebu'n ddigon buan. Mae tocynnau ar gael o’r swyddfa docynnau ar 02920 878 444 neu ar-lein www.stdavidshallcardiff.co.uk. Tocynnau AM DDIM i oedolion, plant a chonsesiynau. Nodyn olaf i chi hefyd - a byddwch chi mor garedig i adael i ni wybod, os dydych chi ddim wedi yn barod, a fyddwch chi’n mynychu’r ymarfer llawn i’r 4 côr yn y canolbarth ar Ddydd Sul 21ain o Dachwedd neu beidio.

Os oes unrhyw gwestiynau mae croeso i chi galw'r tîm cynhyrchu ar 02920 590 117.

Tîm Cynhyrchu Codi Canu

Newyddion Diweddaraf - 26 Hydref - Côr Cwm Rhondda

Aelodau Côr Cwm Rhondda: NEGES BWYSIG

Mae ymarfer heno wedi cael ei ganslo (26 Hydref). Mi fydd ymarferion fel arfer Dydd Mawrth nesaf, 2il o Dachwedd am 19:30yh – ond mae croeso i deulu a ffrindiau ddod i’ch clywed yn perfformio am 20:30yh ar y noson. Mi fydd ymarfer ychwanegol hefyd ar Dydd Iau 4ydd o Dachwedd.

Unrhyw gwestiynau, ffoniwch y tîm cynhyrchu ar 02920 590 117.

Tîm Cynhyrchu Codi Canu

18 Hydref - Côr Cwm Rhondda - Llongyfarchiadau

Llongyfarchiadau enfawr - i gorau Rhondda ac Ogwen am gystadlu yn yr Eisteddfodau lleol dros y penwythnos.

Roedd y ddau gôr wedi rhoi perfformiadau gwych i’r gynulleidfa ac mae’r ymateb mae’r corau wedi cael ar ôl y cystadlaethau wedi bod yn ffantastig.

Rydyn ni’n gobeithio bod chi wedi mwynhau'r profiad a bod o wedi rhoi hyder i chi er mwyn y perfformiad nesaf.

Tîm Cynhyrchu Codi Canu

06 Hydref - Côr Cwm Rhondda - Eisteddfod y Cymoedd

Cyfarchion! Mi fyddwch yn cymryd rhan mewn sialens canu ar Nos Wener y 15eg o Hydref yn Eisteddfod y Cymoedd yn Ystrad Mynach.

Mi fydd disgwyl i holl aelodau’r côr fod yn bresennol os yw hynny yn bosib. Mi fyddwch yn cystadlu yn Eisteddfod y Cymoedd yn Ystrad Mynach yn erbyn Côr Tawe a chorau eraill lleol a fydd hefyd yn cymryd rhan.

Mi fydd Côr Rhondda yn canu dau neu tri darn, naillai 'Cwm Rhondda', 'Ysbryd y Nos, neu ‘Tangnefeddwyr'.

Mi fyddwn yn talu'r gost mynediad ar eich rhan, ond mi fydd yn rhaid i chi gyflwyno cerdyn Boomerang, a fydd yn cael eu dosbarthu ar y bws, er mwyn i chi gael mynd i fewn.

Yr hyn fydd yn rhaid i chi ei wisgo/ddod gyda chi:

· Mi fydd gofyn i chi wisgo dillad du gydag un darn Coch (tei, tei-bô, cadwan, clust dlysau, sgarff a.y.b.)
· Diodydd
· Snac (os oes angen)
· Copi o’r gerddoriaeth ar gyfer y darnau a nodir uchod yn eich ffeiliau cerddoriaeth.

Nodyn: Gwnewch yn siŵr eich bod yn cael rhywbeth i’w fwyta cyn cyrraedd yr Eisteddfod. Nid oes sicrwydd y bydd yna fwyd a diod ar gael yn yr Eisteddfod.

Amserlen:

7:00yh Cyrraedd Clwb NUM Cambrian, Ffordd Llwynypia, Tonypandy, CF40 2ES
7:15yh Cychwyn ar y bws 8:15yh Cyrraedd Ysgol Lewis i Ferched, Ystrad Mynach - ar ol i’r corau cyrraedd fydd yna lle iddyn nhw aros yn y neuadd, ac hefyd ystafell os mae eisiau ymarfer.
*9:30yh - 10.30yh Cystadlu ar lwyfan yr Eisteddfod - mae’r amser yn cael ei penderfynnu ar y noson
*11:00yh Cyhoeddi enillwyr yr Eisteddfod
11:15yh Teithio yn ôl i’r Clwb NUM Cambrian
12:15yh Cyrraedd Clwb NUM Cambrian

*Gall yr amserlen yma newid oherwydd newidiadau yn amserlen yr Eisteddfod.

Mi fuasem wrth ein bodd pe bai pawb yn gallu bod yn rhan o’r sialens yma.

Os gwelwch yn dda a allwch gadarnhau cyn gynted o bod modd gyda Inge Hanson drwy e-bost inge.hanson@boomerang.co.uk os ydych am fod yn rhan o’r sialens a’i pheidio. Hefyd, os gallwch adael i Inge wybod os ydych yn bwriadu gwneud trefniadau eich hun i deithio i’r Eisteddfod, mi fuasem yn hynod ddiolchgar.

Edrychaf ymlaen at glywed gannoch! Rwyf yn deall eich bod wedi nodi eich bwriad i ddod i’r Eisteddfod ai pheidio ar y gofrestr ond mi fydd hyn yn ein galluogi i gael rhestr fwy diweddar.

Yn gywir,

Inge
07808 965892
02920 590138

28 Medi 2010 – Sialens Côr Cwm Rhondda

Aelodau Côr Cwm Rhondda,

Fel gwnaethom ni drafod heno yn ystod eich ymarfer, fe fyddwch chi’n cymryd rhan yn eich sialens gyntaf, Dydd Sadwrn 9fed Hydref.

Bydd disgwyl i bob aelod o'r côr fynychu os yn bosibl. Mi fydd eich sialens yn seiliedig a’r hanes, a hanes cherddoriaeth canu corawl yn eich ardal; sef Parc Treftadaeth Cwm Rhondda, Trehafod.

Cychwynnodd hanes corawl y Rhondda yn fuan wedi i 38 wagan o lo stem orau’r byd weithio ffordd o Bwll Glo’r Bute, yn Nhreherbert ym 1855. Roedd côr i bob pwll a phob côr ynghlwm a chwmni glo. Er cof am y cysylltiadau hanesyddol yma rhwng canu corawl a’r glowyr, byddwn yn eich tywys i berfformio wrth wraidd y traddodiad tan ddaear.

Rydyn ni’n gobeithio bydd yr ymarfer yn fordd hwylus i chi weithio gyda’ch cyd-aelodau mewn sefyllfa sy’n wahanol i’ch ymarferion wythnosol. Mi fyddwch wedi cynhesu eich lleisiau yn y Parc Treftadaeth cyn mynd dan ddaear ac rydyn ni’n gobeithio y byddwch chi’n barod i ganu allan ar gyfer eich sialens.

Mi fydd bysiau wedi eu trefnu ar eich cyfer i’ch casglu, ac i fynd a chi yn nôl i’r Clwb NUM Cambrian. Mae’n bwysig iawn eich bod chi’n rhoi gwybod p’un ai ydych chi’n dod neu beidio fel bod digon o le ar y bysiau i bawb.

Pethau i ddod gyda chi:
· Esgidiau cerdded addas
· Dillad cynnes, cyfforddus - mi fyddwch chi tu allan/dan ddaear
· Côt i arbed y glaw (rhag ofn iddi fwrw)
· Potel o ddŵr (rhag ofn i chi godi syched!)
· Copi o’ch cerddoriaeth

Amserlen:
08:30yb: Y bws i adael Clwb NUM y Cambrian a’ch tywys i Barc Treftadaeth Cwm Rhondda
09:00yb: Cyrraedd Parc Treftadaeth Cwm Rhondda
09:00-12:30yp: Rhoi help llaw i’r parc, cynhesu eich lleisau ac yna eich perfformiad!!
12:30yp: Gorffen ffilmio, a bydd y bws yn dychwelyd i’r clwb NUM
13:00yp Cyrraedd yn ôl i’r clwb

Carem i bawb gymryd rhan yn y sialens yma.

Oes modd i chi gadarnhau cyn gynted â phosibl efo Angharad heno os byddwch yn mynychu ai peidio; neu drwy e-bostio lowri.owen@boomerang.co.uk. Edrychaf ymlaen at glywed gennych cyn gynted â phosib!

Pob hwyl,

Lowri

02920 590 117

*Rhif i gysylltu ar y diwrnod yn unig os oes unrhyw broblemau: 07734 412342

© 2010 S4C
O Gymru / Made in Wales