Mae Stifyn yn wreiddiol o Rhosllanerchrugog. Gadawodd gartref yn ifanc i fynychu Ysgol Cerdd a Drama y Guildhall yn Llundain.
Dechreuodd ei yrfa deledu yn y gyfres ‘Coleg’ ar S4C. Ond daeth yn wyneb cyfarwydd ar y sgrîn fach dros Brydain gyfan fel actor a chyflwynydd. Daeth ei rôl fwyaf adnabyddus yn chwarae rhan Christopher Duncan yn y gyfres ddrama ‘Brookside’ i Channel 4, lle cafodd ei gymeriad y gusan hoyw gyntaf i’w darlledu ym Mhrydain.
Fe ddilynodd gyrfa lewyrchus ar y llwyfan hefyd. Ei rôl fawr gyntaf, a’r un i lansio ei yrfa yn genedlaethol, oedd Marius yn y sioe gerdd ‘Les Misérables’ yn y Palace Theatre yn West End Llundain. Bu'n chwarae'r rhan am 2 flynedd ac enillodd lawer o glod amdani.
Bellach mae gyrfa Stifyn wedi mynd ag e tu ôl i’r camera a chefn llwyfan. Ers 9 mlynedd mae e wedi bod yn rhedeg cwmni hyrwyddo Mr Producer. Fe oedd cynhyrchydd creadigol noson agoriadol Canolfan y Mileniwm ac mae’n gweithio’n galed ar hyn o bryd yn trefnu cyngerdd agoriadol y Cwpan Ryder.
Mae Stifyn yn edrych ymlaen yn arw at sialens Codi Canu, ond yn cyfaddef bo’r Lefel A mewn cerddoriaeth fawr ddim cysur am ei fod yn methu darllen cerddoriaeth o gwbl. Mae hon am fod yn gystadleuaeth ddiddorol iawn!
© 2010 S4C
O Gymru / Made in Wales