Finalé Codi Canu – YN FYW!! – Aelodau Côr Cwm Tawe
Mae’r sioe fyw a’r gystadleuaeth rhwng 4 rhanbarth Codi Canu yn cael ei chynnal yn Neuadd Dewi Sant ar ddydd Sadwrn y 27ain o Dachwedd. Gobeithio y cewch chi noson arbennig – diolch yn fawr am fod yn rhan o’r gyfres!
Edrychwn ymlaen i'ch croesawu ddydd Sadwrn – MAE POB LLAIS YN CYFRI!
Mae’r bysiau wedi eu trefnu i’ch tywys i’r gyngerdd ar dydd Sadwrn y 27ain – ac i ddychwelyd i Bishop Vaughan Catholic School, Morriston yr un noson.
Byddwn yn darparu swper i chi ar y Nos Sadwrn a bydd tê, coffi a dwr ar gael trwy gydol y dydd. Rydym yn eich argymell i ddod a phecyn bwyd a diod fel cinio
Beth sydd angen i chwi ddod ?:
Potel diod/dwr a phecyn bwyd (byrbrydiau os y hoffwch)
Eich cerddoriaeth
Dewch a’ch gwisg ar gyfer y gyngerdd, ond PEIDIWCH a theithio ynddo. Dylai eich gwisg fod yn bennaf yn ddu, ond gyda splash o glas (tei, dici-bô, clustlysau, perlau, scarff ayyb)
Amserlen:
11:15: Cyfarfod ym Maes Parcio Bishop Vaughan Catholic School, Mynyd Garnllwyd Road, Treforys, SA6 7QG. Gallwch barcio ym maes y bysiau, mynedfa o naill Mynydd Garnllwyd Road neu Caemawr Road.
11:30: Llwytho’r bws, a gadael Bishop Vaughan Catholic School, mae’r bws yn mynd a chi yn syth i Neuadd Dewi Sant.
12:30: Cyrraedd Neuadd Dewi Sant
Os ydych yn gwneud eich trefniadau teithio eich hun, mae’n rhaid i chi gyrraedd Neuadd Dewi Sant erbyn 13.00yh ar gyfer eich ymarfer. PEIDIWCH a bod yn hwyr, neu bydd eich côr yn colli eu slot ymarfer.
13:30 Ymarfer gyda Eilir Owen Griffiths a Beti George.
14:00-15:00: Amser bwyta cinio a chael ymarfer arall cefn llwyfan os oes angen.
15:00: Ymarfer y Côr Mawr gyda Owain Arwel Hughes a’r gerddorfa.
17:00: Swper (Bwyd Poeth, 2 ddewis gwahanol a 2 opsiwn llysieuol. Os oes unrhyw anghenion eraill bydd gofyn i chi drefnu eich bwyd eich hun). Bydd teledu yn yr ystafell fwyta i chi gael gwylio Cymru v Seland Newydd
18:00: Newid i’ch gwisg (du a glas). Cewch wybod lle mae’r ystafell newid ar y dydd.
19:00: Paratoi cefn llwyfan.
19:30: Y gynulleidfa’n cyrraedd.
20:00: Cyngerdd Byw.
22:15: Diwedd y Gyngerdd.
23:00: Bydd y bws yn eich casglu ac yn mynd a chi yn nôl i Bishop Vaughan Catholic School. Bydd y gyrrwr yn gadael i chi wybod o ble y byddwch yn cael eich casglu. (Neu wrth gwrs, mae croeso i chi fwynhau’r noson a threfnu eich trafnidiaeth eich hun yn ôl adre ar ôl 23:00yh – does dim hawl i adael eich ceir yma dros nos. Fydd y gatiau wedi cloi).
Gan y byddwch chi'n cyrraedd nol i'r ysgol yn hwyr yn y nos mae’r Ysgol wedi gofyn yn garedig i chi fod mor dawel a phosib – Diolch i chi am eich cydweithrediad.
Cysylltwch ag Inge ar y rhifau isod os oes unrhyw gwestiynnau pellach – neu ar e-bost: inge.hanson@boomerang.co.uk
Edrychwn ymlaen i’ch gweld ddydd Sadwrn!
Cofion,
Inge Hanson
02920 590 138/07808 965 892* (*unrhyw broblem ar y dydd – defnyddiwch y rhif symudol)
Aelodau Côr Cwm Tawe,
GWAHODDIAD I DEULU A FFRINDIAU: 4 Tachwedd 2010
Ar Nos Iau 4ydd o Dachwedd mi fydd noson i deulu a ffrindiau yn dechrau am 20:30yh yn Festri Capel Tabernacl, Treforys.
Mi fydd ymarfer yn Capel Tabernacl, Treforys yn dechrau am 19:30yh fel arfer, wedyn fydd croeso i deulu a ffrindiau cyrraedd am 20:30yh i wrando arnoch chi’n rhoi perfformiad byr iddyn nhw cyn noson y gyngerdd fawr am ddim.
Cofiwch hefyd mae’n bosib i deulu a ffrindiau gael tocynnau ar gyfer y gyngerdd fawr, Nos Sadwrn 27ain o Dachwedd gan Neuadd Dewi Sant yn uniongyrchol - dim ond nifer gyfyngedig o docynnau sydd ar gael, felly gwnewch yn siŵr bod chi’n archebu'n ddigon buan. Mae tocynnau ar gael o’r swyddfa docynnau ar 02920 878 444 neu ar-lein www.stdavidshallcardiff.co.uk. Tocynnau AM DDIM i oedolion, plant a chonsesiynau.
Nodyn olaf i chi hefyd - a byddwch chi mor garedig i adael i ni wybod, os dydych chi ddim wedi yn barod, a fyddwch chi’n mynychu’r ymarfer llawn i’r 4 côr yn y canolbarth ar Ddydd Sul 21ain o Dachwedd neu beidio.
Os oes unrhyw gwestiynau mae croeso i chi galw'r tîm cynhyrchu ar 02920 590 117.
Tîm Cynhyrchu Codi Canu
Cyfarchion! Mi fyddwch yn cymryd rhan mewn sialens canu ar Nos Wener y 22ain o Hydref yn Eisteddfod Gadeiriol Felindre.
Mi fydd disgwyl i holl aelodau’r côr fod yn bresennol os yw hynny yn bosib. Mi fyddwch yn perfformio yn Eisteddfod Felindre ac yn canu ar ôl y Gadeirio ac yn cael eich beirniadaeth gan Euros Rhys Evans.
Mi fydd Côr Tawe yn canu 2 darn, naillai 'Blaenwern', 'Y Cwm', ' Lacrymosa ‘ neu ‘Tangnefeddwyr'.
Mi fyddwn yn talu'r gost mynediad ar eich rhan, ond mi fydd yn rhaid i chi gyflwyno cerdyn Boomerang, a fydd yn cael eu dosbarthu ar y bws, er mwyn i chi gael mynd i fewn.
Yr hyn fydd yn rhaid i chi ei wisgo/ddod gyda chi:
Mi fydd gofyn i chi wisgo dillad du gydag un darn Glas (tei, tei-bô, cadwan, clust dlysau, sgarff a.y.b.)
Diodydd
Snac (os oes angen)
Copi o’r gerddoriaeth ar gyfer y darnau a nodir uchod yn eich ffeiliau cerddoriaeth.
Nodyn: Gwnewch yn siŵr eich bod yn cael rhywbeth i’w fwyta cyn cyrraedd yr Eisteddfod. Nid oes sicrwydd y bydd yna fwyd a diod ar gael yn yr Eisteddfod.
Amserlen:
18:00yh Cyrraedd Capel Tabernacl am ymarfer cyn mynd
18:50yh Dechreuwch llenwi’r bws
19:00yh Cychwyn ar y bws
19:20yh Cyrraedd Neuadd tref Felindre, SA5 7NA – “Welfare Hall”
19:30yh Mynd syth i’r neuadd a cymryd eich seddau
*20:00yh -20.30yh Cadeirio’r Eisteddfod
*20:30yh Côr Tawe yn perfformio
21:30yh Teithio yn ôl i Capel Tabernacl
21:45yh Cyrraedd Capel Tabernacl
*Gall yr amserlen yma newid oherwydd newidiadau yn amserlen yr Eisteddfod.
Mi fuasem wrth ein bodd pe bai pawb yn gallu bod yn rhan o’r sialens yma.
Os gwelwch yn dda a allwch gadarnhau cyn gynted o bod modd gyda Inge Hanson drwy e-bost inge.hanson@boomerang.co.uk os ydych am fod yn rhan o’r sialens a’i pheidio. Hefyd, os gallwch adael i Inge wybod os ydych yn bwriadu gwneud trefniadau eich hun i deithio i’r Eisteddfod, mi fuasem yn hynod ddiolchgar.
Edrychaf ymlaen at glywed gannoch! Rwyf yn deal eich bod wedi nodi eich bwriad i ddod i’r Eisteddfod ai pheidio ar y gofrestr ond mi fydd hyn yn ein galluogi i gael rhestr fwy diweddar.
Yn gywir,
Inge
07808 965892
02920 590138
Cyfarchion! Mi fyddwch yn cymryd rhan mewn sialens canu ar Nos Wener y 15eg o Hydref yn Eisteddfod y Cymoedd yn Ystrad Mynach.
Mi fydd disgwyl i holl aelodau’r côr fod yn bresennol os yw hynny yn bosib. Mi fyddwch yn cystadlu yn Eisteddfod y Cymoedd yn Ystrad Mynach yn erbyn Côr y Rhondda a chorau eraill lleol a fydd hefyd yn cymryd rhan.
Mi fydd Côr Tawe yn canu 2 neu 3 darn, naillai 'Blaenwern', 'Y Cwm', ' Lacrymosa ‘ neu ‘Tangnefeddwyr'.
Mi fyddwn yn talu'r gost mynediad ar eich rhan, ond mi fydd yn rhaid i chi gyflwyno cerdyn Boomerang, a fydd yn cael eu dosbarthu ar y bws, er mwyn i chi gael mynd i fewn.
Yr hyn fydd yn rhaid i chi ei wisgo/ddod gyda chi:
· Mi fydd gofyn i chi wisgo dillad du gydag un darn Glas (tei, tei-bô, cadwan, clust dlysau, sgarff a.y.b.)
· Diodydd
· Snac (os oes angen)
· Copi o’r gerddoriaeth ar gyfer y darnau a nodir uchod yn eich ffeiliau cerddoriaeth.
Nodyn: Gwnewch yn siŵr eich bod yn cael rhywbeth i’w fwyta cyn cyrraedd yr Eisteddfod. Nid oes sicrwydd y bydd yna fwyd a diod ar gael yn yr Eisteddfod.
Amserlen:
7:00yh Cyrraedd Capel Tabernacl, Woodfield Street and Crown Street, Treforys
7:15yh Cychwyn ar y bws
8:15yh Cyrraedd Ysgol Lewis i Ferched, Ystrad Mynach - ar ol i’r corau cyrraedd fydd yna lle iddyn nhw aros yn y neuadd, ac hefyd ystafell os mae eisiau ymarfer
*9:30yh - 10.30yh Cystadlu ar lwyfan yr Eisteddfod- mae’r amser yn cael ei penderfynnu ar y noson
*11:00yh Cyhoeddi enillwyr yr Eisteddfod
11:15yh Teithio yn ôl i Capel Tabernacl
12:15yh Cyrraedd Capel Tabernacl
*Gall yr amserlen yma newid oherwydd newidiadau yn amserlen yr Eisteddfod.
Mi fuasem wrth ein bodd pe bai pawb yn gallu bod yn rhan o’r sialens yma.
Os gwelwch yn dda a allwch gadarnhau cyn gynted o bod modd gyda Inge Hanson drwy e-bost inge.hanson@boomerang.co.uk os ydych am fod yn rhan o’r sialens a’i pheidio. Hefyd, os gallwch adael i Inge wybod os ydych yn bwriadu gwneud trefniadau eich hun i deithio i’r Eisteddfod, mi fuasem yn hynod ddiolchgar.
Edrychaf ymlaen at glywed gannoch! Rwyf yn deal eich bod wedi nodi eich bwriad i ddod i’r Eisteddfod ai pheidio ar y gofrestr ond mi fydd hyn yn ein galluogi i gael rhestr fwy diweddar.
Yn gywir,
Inge
07808 965892
02920 590138
© 2010 S4C
O Gymru / Made in Wales