Neidio at y cynnwys

S4C

Cofio

Dr John Davies

Dr John Davies

Edrych yn ôl yw arbenigedd gwestai Heledd Cynwal yr wythnos hon ac mae'r hanesydd, awdur a'r darlledwr Dr John Davies yn siarad yn agored am ei fagwraeth, ei yrfa a'i rywioldeb.

Cawn weld John yn croesawu myfyrwyr newydd i Neuadd Pantycelyn, ble oedd yn warden am ddeunaw mlynedd wrth iddo gofio'r profiad o gyd-fyw gyda theulu estyngedig o 300 o fyfyrwyr.

Mae'n egluro pam y caiff ei adnabod fel John Bwlchllan, er bod ei wreiddiau yn Y Rhondda, ac yn datgelu ei hoffter o deithio i'r India. Drwy glipiau archif o Geinewydd yn y 50au, Treorci yn yr 80au a phrotest gyntaf Cymdeithas yr Iaith yn 1963, mae John yn ein harwain ar daith ddiddorol ac emosiynol nôl mewn amser.

© 2012 S4C
O Gymru / Made in Wales