Yr Athro Gwyn Thomas
Actor o Ddyffryn Aman ar Cofio
Yr actor o Ddyffryn Aman, Dafydd Hywel, sy'n hel atgofion am ei yrfa liwgar ar Cofio.
Yn ogystal â siarad gyda Heledd Cynwal am ei waith mewn ffilmiau, ar y teledu ac ar y llwyfan, bydd Dafydd, oedd yn chwarae rhan cymeriad Jac Daniels yn Pobol y Cwm, yn rhoi ei farn di flewyn ar dafod ar addysg Gymraeg, y pyllau glo, alcoholiaeth a'i ddiddordeb mawr, bocsio.
Mae'r clipiau'n cynnwys ambell ddrama bwerus mae Dafydd wedi ymddangos ynddyn nhw, y gyfres deledu i blant Miri Mawr, lle'r oedd Dafydd yn chwarae Caleb y Twrch, a'r ornest focsio enwog rhwng y Cymro Tommy Farr a Joe Louis.
Bydd Dafydd, sy'n cynhyrchu pantomeim yn flynyddol i'r cwmni drama, Cwmni Mega, yn siarad am ei fagwraeth a phwysigrwydd teulu a ffrindiau yn ystod adegau anodd. Bydd hefyd yn esbonio pam nad yw tanau aelwydydd Dyffryn Aman wedi pylu hyd heddiw.