Neidio at y cynnwys

S4C

Cofio

Margaret Williams

Margaret Williams

Margaret Williams, cantores ac actores sydd wedi harddu ein sgriniau teledu am dros hanner canrif, sy'n rhannu ei hatgofion gyda Heledd Cynwal. Mae'r ferch o Frynsiencyn, sydd wedi ein swyno mewn sawl cyfres deledu dros y blynyddoedd, yn sôn am ddatblygiad diddorol ei gyrfa.

Cafodd y fraint o gyd-weithio gyda mawrion fel Ryan Davies, Ronnie Williams, Aled Hughes a Stewart Jones ac yn cofio'r pleser o'u cwmni ar lwyfan Wrth wylio rhai o'i pherfformiadau teledu cynnar, mae Margaret yn datgelu nad oedd yn ystyried ei hun yn brydferth ond yn cydnabod bod ei delwedd glam heb fod yn rhwystr i'w gyrfa lwyddiannus.

© 2012 S4C
O Gymru / Made in Wales