Neidio at y cynnwys

S4C

Cofio

Dewi Pws

Dewi Pws

Dewi Pws sy'n edrych yn ôl gyda Heledd Cynwal. Cawn weld ei hiwmor unigryw yn y gyfres Torri Gwynt a'i ddawn gerddorol mewn cyngerdd arbennig gan Edward H. Dafis nôl yn 1976.

Mae Dewi'n cyfaddef bod ganddo gof hynod o wael, a phrin ei fod yn cofio ambell glip, ond mae gweld ei fam mewn rhaglen ddogfen o 1980 yn codi llawer o atgofion melys. Mae'n trafod ei hoffter o redeg yn yr awyr agored, chwarae golff ac yn egluro pam ei fod wedi rhedeg yn noeth lymun ar gwrs golff.

© 2012 S4C
O Gymru / Made in Wales