Neidio at y cynnwys

S4C

Cofio

Huw Llywelyn Davies

Huw Llywelyn Davies

Huw Llywelyn Davies, llais mwya' cyfarwydd gem y bêl hirgron sy'n rhannu atgofion gyda Heledd Cynwal.

Mae'n edrych yn ôl ar ei benderfyniad i adael swydd fel athro i ymuno â thîm newyddion teledu, ac yn datgelu ei fod yn ystyried ei hun yn hynod lwcus o'r amrywiaeth o waith yn ystod ei yrfa ddarlledu. Bydd hefyd yn datgelu pam oedd partneriaeth sylwebu Huw a Ray Gravell mor llwyddiannus ond hefyd yn destun ambell jôc.

Mae'r straeon a'r clipiau difyr yn cynnwys nosweithiau gwerin Hwyrnos ym Mhlas Glansefin yn ystod yr 1970au a chriw o gerddorion dawnus oedd yn rhannu tŷ gyda Huw yn ystod ei ddyddiau prifysgol - Y Dyniadon Ynfyd Hirfelyn Tesog.

© 2012 S4C
O Gymru / Made in Wales