Neidio at y cynnwys

S4C

Cofio

Gillian Elisa

Gillian Elisa

Gillian Elisa, yr actores, cantores a'r ddigrifwraig amryddawn sy'n sgwrsio gyda Heledd Cynwal am ei gyrfa.

Mae gwylio golygfeydd actio gyda Harriet Lewis ac Ifan Gruffydd yn dwyn atgofion melys iawn yn ôl i Gillian a mae hi'n synnu gweld ei hun yn cymryd rhan Branwen yn yr opera roc "Melltith ar y Nyth" yn 1975.

Mae Gillian yn adnabyddus am greu cymeriadau digri' fel mam Tomi, neu Mrs O.T.T ac yn egluro sut mae aelodau o'i theulu wedi ysbrydoli ei gwaith. O'r doniol i'r difrifol, bydd Gillian hefyd yn datgelu effaith ei gyrfa ar ei bywyd personol dros y blynyddoedd.

© 2012 S4C
O Gymru / Made in Wales