Gwyn Llewelyn
Gwyn Llewelyn, un o wynebau mwyaf cyfarwydd S4C, sy'n hel atgofion gyda Heledd Cynwal.
Trwy archif a sgwrs mae Gwyn yn ein tywys ar draws y byd wrth iddo adrodd ei hanesion fel newyddiadurwr a chyflwynydd Hel Straeon a Gwyn a'i Fyd.
Cawn weld a chlywed ei hanes yn y Dwyrain Canol, Ynysoedd y Galapagos ac, wrth gwrs yng Nghymru. Ar ôl hel straeon am dros hanner canrif mae Gwyn wedi ceisio, a methu, ymddeol ond mae'n mynnu ei fod yn arafu ychydig. Mae'n trafod y dylanwadau cynnar ar ei yrfa, ei hoffter o geir ac yn datgelu pam na fydd yn ysgrifennu hunangofiant.