Tony ac Aloma
"Mae gen i gariad", "Dim ond ti a fi" - mae llinellau Tony ac Aloma yn dal i ganu yn y cof. Byddwn yn dathlu'r ddeuawd boblogaidd mewn noson o raglenni arbennig.
Mae'r ddau wedi canu ochr yn ochr â'i gilydd am dros 45 o flynyddoedd ac mae'r bartneriaeth rhwng y ddau wedi blodeuo - ond fe fuodd yna ambell dro trwstan.
Mae'r ddau yn cofio'r cyfarfod cyntaf yn Llannerchymedd, pan fu Tony yn chwilio am gantorion i gymryd rhan mewn noson lawen arbennig. Ar y pryd, roedd Aloma'n 14 oed ac yn byw gyda'i nain a'i thaid. O'r diwrnod cyntaf un, roedd Tony'n cydnabod bod "Aloma'n hogan dalentog".
Datblygodd y bartneriaeth ac roedd y ddau yn perfformio yn gyson ar lwyfannau'r wlad - gydag Aloma yn parhau â'i haddysg yn yr ysgol a Tony'n gweithio ar fferm ar Ynys Môn.
Ym 1984 daeth cyfle i Tony ac Aloma ddod nôl at ei gilydd wrth i'r Eisteddfod Genedlaethol gael ei chynnal yn Llangefni. Roeddent prin wedi siarad ers 1976 ond roedd y sbarc rhwng y ddau yn bodoli o hyd. "Roedd y cemeg arbennig rhyngom ni yno ar y dechrau," esbonia Tony, "a fydd o yno hyd y diwedd!"
Bellach, mae Tony, Aloma a Roy yn byw ac yn gweithio yng Ngwesty Gresham, Blackpool, lle maent yn cynnal nosweithiau llawen. Meddai Aloma, "Dwi'n meddwl ein bod yn gweithio'n arbennig hefo'n gilydd a 'da ni 'di cael nosweithiau bendigedig a cabarets anhygoel. Mae'r bartneriaeth yn gweithio'n andros o dda - dwi'n dueddol o ddeud wrth Tony a Roy be' i'w wneud ac maen nhw'n gwneud!"
Yn dilyn Cofio gyda Tony ac Aloma ar nos Wener 21 Mai, bydd cyfle hefyd i wylwyr deithio nôl i'r gorffennol wrth i S4C gyflwyno penodau o'r cyfresi adloniant Taro Tant a Tony ac Aloma o'r archif.