Neidio at y cynnwys

S4C

Cofio

J. O. Roberts

J. O. Roberts

Mewn rhifyn arbennig o Cofio, bydd yr actor J.O. Roberts yn hel atgofion am ei fagwraeth yn Lerpwl, ei ddyddiau yn yr Awyrlu a'i rôl mewn rhai o ddramâu a ffilmiau mwyaf Cymru.

Recordiwyd y rhaglen arbennig yng nghwmni cynulleidfa o ffrindiau ac edmygwyr J.O. Roberts. I ddilyn, bydd cyfle i weld J.O. yn serennu gyda Siân Phillips mewn pennod o'r gyfres Mae Hi'n Wyllt Mr Borrow a ddarlledwyd gyntaf ar S4C ym 1984.

Fe glywn J.O. yn adrodd am ddechrau ei yrfa fel actor, a'r ddrama gyntaf iddo gymryd rhan ynddi yn 14 oed sef Amlyn ac Amig gan Saunders Lewis. Ers hynny mae wedi perfformio mewn nifer helaeth o ddramâu ar lwyfan a theledu ac hefyd wedi portreadu rhai o arwyr y genedl gan gynnwys Owain Glyndŵr.

"Dwi wedi bod yn ffodus iawn a dweud y gwir," meddai, wrth wylio clip ohono yn portreadu Owain Glyndwr yn y ffilm deledu o'r 80au. "Mi oedd hi'n fraint, ac mi oedd yna gyfrifoldeb aruthrol wrth geisio portreadu arwr cenedl."

Mae plant J.O. Roberts hefyd yn adnabyddus fel cyflwynwyr ar S4C. Mae Gareth yn gyflwynydd chwaraeon ar Y Clwb Rygbi ac mae Nia'n cyflwyno'r rhaglenni diwylliant Pethe a Pethe Hwyrach yn ogystal â rhaglen foreol ar Radio Cymru.

© 2012 S4C
O Gymru / Made in Wales