Neidio at y cynnwys

S4C

Cofio

Cefin Roberts

Cefin Roberts

Mae Cefin Roberts a Chôr Glanaethwy dal i sefyll

Bydd Cefin Roberts sylfaenydd Ysgol Glanaethwy ac arweinydd y côr yn sgwrsio gyda Heledd Cynwal am y profiad o gystadlu ar y rhaglen Last Choir Standing y BBC.

Bydd Cefin hefyd yn trafod dechrau ei yrfa, ac sut mae wedi datblygu i gynnwys actio, canu, cyfansoddi, cyfarwyddo theatr, ysgrifennu ac arwain corau.

Wedi mwynhau clip o gôr Glanaethwy yn perfformio All That Jazz o'r sioe gerdd Chicago ar y rhaglen Last Choir Standing, mae Cefin yn sôn wrth Heledd am y gwaith caled oedd rhaid ei wneud ar gyfer perfformio ar y rhaglen bob wythnos.

"Byddwn ni'n mynd yn ôl i'r gwesty ar nos Sadwrn ar ôl llwyddo i fynd drwodd i'r rwond nesaf, ac yn syth roedd rhaid dewis dwy gân newydd sbon. Byddwn ni'n dysgu rheiny ar ddydd Llun, ac hefyd ymarfer dwy gân byddwn ni'n perfformio mewn grŵp. Bydden ni'n perffeithio'r canu ar ddydd mawrth; byddai'r coriograffydd yn dod i'n gweld ni ddydd Mercher; polish wedyn ar ddydd Iau. Byddwn ni nôl ar y bws i Lundain ddydd Gwener, yn perfformio'n fyw unwaith eto ar y nos Sadwrn," meddai Cefin, cyn cael ei wynt ato.

Daeth côr Glanaethwy yn ail ar ôl Only Men Aloud yng nghystadleuaeth y BBC yn ystod misoedd yr haf yn 2008.

Mae Cefin yn rhoi cip olwg i ni ar sut roedd y rhaglen yn cael ei chynhyrchu, gyda rhai o'u hatebion yn cael eu sgriptio, "Weithiau bydden nhw'n gofyn i ni ateb cwestiwn drwy ddweud, er engraiff 'I'd be devestated if we went out of the competition this week', a buswn i'n meddwl i fy hun - na, allai ddim dweud hynny, mi oedd 'na rhai pethau na fedrwn i ddweud ar gamera.

"Ond, mi yden ni gyd yn ymwybodol fod yna elfen a manipiwleiddio yn y rhaglenni realaeth yma," ychwanega. "Ond os oeddem ni am adael y gystadleuaeth ar unrhyw adeg, mi oedden ni am adael yn gwenu wedi mwynhau a chael pleser o'r profiad."

© 2012 S4C
O Gymru / Made in Wales