T James Jones
Y prifardd, awdur a dramodydd T. James Jones sy'n rhannu ei atgofion gyda Heledd Cynwal yr wythnos hon.
Mae'n gwylio clasuron o luniau teledu'r gorffennol sy'n cynnwys recordiad cynnar ohono yn ymarfer cynhyrchiad radio o "Dan y Wenallt", oes aur clwb pêl-droed yr Elyrch, Abertawe, yn y 60au ac Eisteddfod Glyn Ebwy 1958.
Mae Jim hefyd yn sôn am y profiad ysgytwol gafodd tra'n ymweld â Chadeirlan Torino yn yr Eidal. Ar drothwy Eisteddfod Blaenau Gwent a Blaenau'r Cymoedd mae Jim Parc Nest yn edrych ymlaen at y profiad o ddilyn ei frawd, John Gwilym Jones fel Archdderwydd Gorsedd y Beirdd.