Gaynor Morgan Rees
Cyfle i ailfyw rhai o glasuron teledu'r gorffennol yng nghwmi Gaynor Morgan Rees wrth iddi sgwrsio â Heledd Cynwal.
Daeth Gaynor i amlygrwydd yn y gyfres gomedi 'Fo a Fe' wrth iddi geisio cadw trefn ar ei thad a'i thad yng nghyfraith - y naill o'r gogledd a'r llall o'r de, ond does dim tyndra tebyg i'r actores o Abercwmboi sydd wedi ymgartrefu yn Ninbych ers llawer blwyddyn. Dyw ei chalon heb grwydro ymhell o Gwm Cynon ac mae ganddi atgofion melys iawn o'r gymuned lofaol.
Mae'r clipiau yn mynd â ni nôl i'r 60au - dawnsio'r twist, rasus motorbeics Aberdâr a Gwersyll yr Urdd yn Llangrannog.