Heather Jones
Yn ymuno â Heledd Cynwal yr wythnos hon bydd un o rock chicks gwreiddiol Cymru, yr un â'r llais pur sy'n parhau i swyno hyd heddiw, y fytholwyrdd Heather Jones.
Cawn glywed am ddylanwad y Beatles, Dafydd Iwan, gwersyll yr Urdd Glan Llyn, boddi Capel Celyn a Mary Hopkin ar ei bywyd. A hithau wedi dathlu ei phen-blwydd yn chwedeg eleni, profa Heather Jones ei bod mor ifanc ag erioed wrth iddi siarad am ei chynlluniau diweddaraf i ryddhau CD newydd yn y dyfodol agos.
Trwy ddeunydd clipiau archif o fwrlwm Cymru'r '60au a'r '70au cawn gyfle i ail-fyw'r atgofion sy'n llonni'r galon ac yn codi ambell ddeigryn.