John Ogwen
Un o actorion enwocaf Cymru, yr hogyn o Sling John Ogwen, sy'n rhannu ei atgofion gyda Heledd Cynwal.
Cawn glywed am ei obeithion cynnar i fod yn bêl-droediwr pan oedd yn chwarae i dîm Bangor, ei ddiddordeb mewn bocsio, a darganfod pam fod y ddrama Tywyll Heno mor bwysig iddo.
Fe fydd y rhaglen yn ein tywys drwy glipiau archif o'r gêm bêl-droed enwog rhwng Bangor a Napoli nôl yn 1962 ac agoriad Pont Borth yn bont ddi-doll yn 1940.
Byddwn hefyd yn cael blas ar olygfa fywiog mewn tafarn ym Methesda gyda'r awdur a'r newyddiadurwr Caradog Prichard.
Dewch ar daith drwy'r llon a'r lleddf wrth i John Ogwen gofio'r dyddiau a fu.