Neidio at y cynnwys

S4C

Cofio

Dic Jones

Dic Jones

Ar 18 Awst 2009, cyhoeddwyd y newyddion trist fod Dic Jones, Dic yr Hendre, wedi marw. Dyma un o'r cyfweliadau olaf a wnaeth.

Y prifardd a'r ffarmwr, Dic Jones sy'n rhannu ei atgofion gyda Heledd Cynwal wrth wylio clasuron o luniau teledu'r gorffennol.

Mae ffilm o'r croeso cynnes gafodd Dic wrth iddo ddychwelyd gartre' ar ôl ar ennill cadair Eisteddfod 1966 yn gwrthgyferbynnu â lluniau o storm farddonol Eisteddfod Aberteifi ddeng mlynedd yn hwyrach.

Y llon a'r lleddf, wrth i Dic fwynhau ffilm o'r teulu ar eu gwyliau yn Ibiza yn y 60au, cyn gweld lluniau o'i daith emosiynol i'r Almaen i ddarganfod hanes carcharor rhyfel ddaeth yn ffrind agos.

Mwy o chwerthin wrth i Rhys Ifans, un o'r ddau Frank ddweud y drefn wrth Dic mewn clasur o raglen gomedi -"Listen Dic, you do the poetry, we'll do the jokes".

© 2012 S4C
O Gymru / Made in Wales