Caradog Prichard
Cofio Caradog Prichard, y nofelydd a'r newyddiadurwr o Fethesda.
Lisa Gwilym sy'n cyflwyno ffilm o 1972 a chawn glywed hanes plentyndod Caradog Prichard yn ei eiriau ei hun. Wrth grwydro o gwmpas Chwarel y Penrhyn gyda T.R. Jones mae Caradog yn son am farwolaeth trist ei dad mewn damwain yno.
Cafodd "Un Nos Ola Leuad" ei chyhoeddi hanner canrif yn ôl, ac mae Caradog Prichard yn gwrando ar yr actor John Ogwen yn darllen o'r nofel gan ddatgelu pa unigolion o'r ardal ysbrydolodd rhai o'r cymeriadau.