Gwersylloedd yr Urdd
Ymunwch â Lisa Gwilym allu o wynebau cyfarwydd i gofio gwersylloedd yr Urdd.
Mae'r atgofion o wersylloedd Llangrannog a Glan-llyn yn llifo nôl wrth i'r gwersyllwyr a'r swyddogion gofio'r cymdeithasu, y canu a'r cerdded, yr hwyl a'r hiraeth.
Cawn glywed am y chwerthin a'r crio, y doniol a'r trist wrth wylio lluniau archif gwych o'r gwersyllwyr yn y '60au a'r '70au yn profi'r bywyd agored wrth adael cartref, o bosib am y tro cyntaf.
Datblygodd cyfeillgarwch oes rhwng llawer ohonynt ac mae'r profiad o fod yn y gwersylloedd wedi creu argraff barhaol ar lawer.