Neidio at y cynnwys

S4C

Cofio

Lisa Gwylym

Hogia'r Wyddfa yn Cofio mewn rhaglen arbennig

Golwg ar yrfa gerddorol liwgar un o'r grwpiau mwyaf poblogaidd erioed yn y byd adloniant Cymraeg, Hogia'r Wyddfa.

Gan ddefnyddio archif gerddorol werthfawr a chyfweld ag aelodau'r grŵp, cawn ddarlun byw o ddegawdau cyffrous yn hanes cerddoriaeth Gymraeg trwy lygaid grŵp fu'n perfformio ers 48 mlynedd.

Mewn rhaglen yn llawn emosiwn ac angerdd - yn ogystal â llond rîl o berfformiadau, mae'r hogia' o ardal Llanberis, Gwynedd yn sôn yn agored am y straen a'r wefr, yr hwyl a'r gofid o fod mewn band mor boblogaidd.

Caneuon cofiadwy

Yn y 1960au a'r 1970au yn enwedig, roedd caneuon cofiadwy fel Safwn yn y Bwlch, Tylluanod, Titw Tomos Las, Aberdaron, Llanc Ifanc o Lŷn a Pentre Bach Llanber ar dop siartiau Deg Uchaf y Cymro yn gyson.

Roedden nhw'n denu cynulleidfaoedd mawr i'w nosweithiau llawen a'u cyngherddau mewn mannau mor amrywiol â'r Royal Albert Hall, Majestic, Caernarfon a neuaddau pentref ledled Cymru.

Wedi'u ffurfio yn wreiddiol yn 1963, fe ddaeth enwau Arwel Jones, Myrddin Owen, Elwyn Wilson Jones (y tri yn canu), Vivian Parry (gitâr) a'r diweddar Richard Huw Morris (piano) yn gyfarwydd iawn. Maen nhw'n dal i ganu a pherfformio heddiw gyda'r cyfeilydd Annette Bryn Parri bellach yn rhan hanfodol o'r grŵp.

Hel atgofion

Yn ogystal ag aelodau'r band, mae wynebau cyfarwydd yn y byd adloniant yng Nghymru fel Hywel Gwynfryn, Huw Jones, Dafydd Iwan, Idris Charles, J O Roberts a John Ogwen yn hel atgofion ac yn pwyso a mesur eu cyfraniad.

Meddai John Ogwen: "Mae llawer o'r hiwmor yn dod o'r chwarel - mae ganddyn nhw hiwmor sy'n gallu crafu ond ma' yna ryw anwyldeb yn dod trwyddo hefyd. Dyna pam eu bod nhw mor boblogaidd. Yr allwedd pam eu bod nhw wedi aros gyda'i gilydd cyhyd yw eu bod yn ffrindiau mor dda ac mae hynny'n cael ei drosglwyddo i'r gynulleidfa."

I ddilyn y rhifyn arbennig o Cofio, bydd dwy raglen archif - Yng Nghwmni: Hogia'r Wyddfa, a Noson Chis a Meinir - yn ddathliad pellach o yrfa'r Hogia'.

© 2012 S4C
O Gymru / Made in Wales