Neidio at y cynnwys

S4C

Cofio

Kate Roberts

Dr. Kate Roberts

Lisa Gwilym sy'n cyflwyno rhaglen ar Dr Kate Roberts, un o nofelwyr mwya' adnabyddus Cymru, a ddarlledwyd gyntaf ym 1965.

Mae'r nofelydd yn rhannu atgofion gyda Derec Llwyd Morgan a Gwyn Erfyl, wrth edrych yn ôl ar ei phlentyndod yng Nghae'r Gors, Rhosgadfan. Roedd cymdeithas glos a chaledi bywyd Arfon ar ddechrau'r 20fed ganrif yn ysbrydoliaeth i'w gwaith.

Mae Kate Roberts yn sôn am y grefft o ysgrifennu nofelau a straeon byrion a sut y newidiodd ei llenyddiaeth pan symudodd i fyw yn Ninbych.

© 2012 S4C
O Gymru / Made in Wales