Nansi Richards
Nansi Richards, telynores Maldwyn a Brenhines y Delyn sy'n rhannu ei hatgofion mewn ffilm archif o 1965 sy'n cael ei hail-gyflwyno i gynulleidfa newydd gan Lisa Gwilym.
Cawn ddod i adnabod y ferch o Benybont Fawr yn well wrth iddi son am ei gwreiddiau yn y ffermdy sy wedi bod yn ei theulu ers dwy ganrif. Roedd Nansi yn gymeriad unigryw ac yn hoff iawn o grwydro, wrth iddi ganu'r delyn ar lwyfannau led led y byd.
Wrth basio ei thalent aruthrol i'r genhedlaeth nesa' o delynorion sicrhaodd Nansi Richards ddyfodol y delyn deires yng Nghymru.