| 1861: |
 |
Cyfarfod yn Bod Iwan, Bala, gyda Michael Jones, pennaeth Coleg Bala, ac eraill yn trafod y posibiliad o greu Gwladfa - ardal newydd i Gymry Cymraeg gael byw ynddi, heb erlid diwylliannol ac i ffwrdd o dlodi diwydiannol. Michael Jones wedi bod mewn trafodaethau gyda llywodraeth yr Ariannin. Y llywodraeth yno'n fodlon cynnig can milltir sgwâr i'r Cymry. Llawlyfr Wladfa yn cael ei gyhoeddi.
|
| 1862: |
 |
Lewis Jones yn mynd i Buenos Aires i gadarnhau'r cytundeb gyda Dr Rawson o lywodraeth yr Ariannin.
|
| 1865: |
 |
Agos at 200 o Gymry yn hwylio o Lerpwl yn mis Mai ar y Mimosa, llong yn pwyso 447 tunell gyda deufis o daith o'u blaenau.
|
| 1865: |
 |
Gorffenaf 27ain - Ar ôl tywydd da yn ystod y mordaith, y llong yn glanio ym Mhorth Madryn. Roedd Lewis Jones ac Edwin Roberts yno i gyfarfod y mewnfudwyr. Mae tirwedd Patagonia yn hollol wahanol i Gymru - ac i'r llefydd eraill mae Cymry wedi ymfudo iddynt yn y gorffennol, megis Pennsylvania. Sefydlwyd Tre Rawson.
|
| 1865: |
 |
Gan fod y tir mor anodd i'w ffermio, mae'r ymfudwyr cynnar yn dioddef yn arw o ddiffyg bwyd ac adnoddau prin. Mae yna lawer o straeon am galedi bywyd y Gwladfawyr o'r cyfnod yma.
|
| 1867: |
 |
Tachwedd - Dau ddigwyddiad pwysig sy'n gweddnewid lwc y Cymry: glaniodd llong gydag adnoddau ar eu cyfer ac awgrymodd Rachel Jenkins eu bod yn tyllu ffosydd o gwmpas yr afon Chubut i ffrwythloni'r tir. Hwn yw'r datblygiad wnaeth safio'r holl arbrawf o ddechrau Gwladfa newydd yn ôl rhai haneswyr. Y gwanwyn canlynol, cafwyd cnwd o yd, a daeth y llwyddiant a mwy o sylw gan lywodraeth Santa Fe. Anfonodd Dr Rawson mwy o fwyd a gwartheg.
|