| 1880: |
 |
Codwyd capel arall o'r enw Moriah, yn ogystal â chapel y Tabyrnacl a gafodd ei adeiladu ar dir wedi ei roi gan Gwmni Rheilffordd Porth Madryn. Daeth y cwmni i fodolaeth er mwyn cludo cynnyrch amaethyddol i Borth Madryn i'w allforio. Casglwyd yr arian i adeiladu'r rheilffordd yn Lerpwl, a daeth y deunydd a'r arbenigedd o Brydain i adeiladu'r ffordd yn 1886 - erbyn 1888 roedd rheilffordd yn cysylltu Trelew gyda'r Porth.
|