| 1930: |
 |
Coup d'etat cyntaf y Weriniaeth, gyda José Felix Uriburu yn sefydlu ei hun fel unben aden dde i geisio "sefydlogi'r wlad".
|
| 1932: |
 |
Sychder mawr wedyn llifogydd yn distrywio'r dyffryn unwaith eto.
|
| 1933: |
 |
Methiannau masnachol yn ogystal â rheolau fel gwrthod gwerthu alcohol neu gosod mwy na 10% o elw ar bris unrhyw eitem yn golygu fod y CMC yn dod i ben fel cwmni effeithiol - hyn yn achosi caledi mawr i'r cyfrandalwyr a felly i'r Wladfa oll. Gyda'r cwymp yma daw cwymp safle'r Gymraeg fel iaith busnes; bellach, roedd llawer o rieni'n dechrau gweld yr iaith yn rwystr i'w plant.
|
| 1930au: |
 |
Gorthrwm ar y iaith yn cynyddu yn ystod y Weriniaeth aden dde, gyda'r awdurdodau milwrol yn gwahardd unrhyw sumbol neu ymgais i adfywio'r iaith, felly'r Gymraeg yn cilio i fod yn iaith breifat, yn gryf yn y cadarnleoedd fel y capel a'r eisteddfod ond ddim yn gyhoeddus.
|
| 1939: |
 |
Cymdeithas Cymru-Ariannin yn cael ei sefydlu i hybu'r cysylltiad rhwng y ddwy wlad.
|